Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl a fi - gan Matt Smith

Yn ystod y mis Iechyd Meddwl Dynion hwn, rydym am herio stigma, yn enwedig o ran dynion ac iselder. Darllenwch sut y ceisiodd Matt Smith, cyn-gydweithiwr yma yn AaGIC, gael cymorth ar gyfer ei iselder a sut mae bellach yn ei reoli o ddydd i ddydd.

Iechyd meddwl a fi - gan Matt Smith

Yn 2013, roeddwn i'n gweithio mewn swydd dan bwysau a straen uchel iawn. Fel sefydliadau eraill yn yr un sector, roedd adnoddau'n gyfyngedig tra bod y galw a'r disgwyliadau yn uchel. Roedd ailstrwythuro ac adolygiadau yn digwydd yn rheolaidd gyda diswyddo bob amser yn bryder yng nghefn fy meddwl. Gweithiais oriau hirach a hirach, gan gymryd galwadau gyda'r nos ac yn ystod fy niwrnodau i ffwrdd ac yn fuan, nid oedd modd adnabod y gwahaniaeth rhwng fy ngwaith a bywyd gartref.

Un diwrnod yng nghanol 2013, fe darodd fi nad oedd rhywbeth yn iawn. Roeddwn i'n ddiflas trwy'r dydd. Roedd gyrru i mewn ac adref o'r gwaith yn achosi i mi grio. Treuliais trwy'r dydd yn fy swyddfa, yn gweithio'n gyson, yn cau fy hun i ffwrdd o'r byd y tu allan. Nid oedd fy mywyd gartref yn ddim gwahanol, roeddwn wedi ymbellhau oddi wrth fy nheulu, fy ffrindiau a fy hobïau. Daeth materion bach yn bryderon enfawr ac ni allwn ffocysu fy meddyliau.

Penderfynais alw Gwasanaeth Cymorth Gweithwyr fy sefydliad ac o fewn 30 munud, roeddwn yn derbyn cefnogaeth un i un. Fe wnaeth y gwasanaeth fy nghynghori i gysylltu â fy meddyg teulu lleol i ofyn am help a chwnsela. Yr alwad ffôn honno oedd y cam cyntaf yn fy nhriniaeth. Wnes i ddim gwella ar unwaith, ond wnes i ddim gwaethygu. Roeddwn i dal ddim yn teimlo fy mod i'n barod i gysylltu â fy meddyg teulu, felly fe wnes i barhau i weithio, gan obeithio y byddwn i'n dod drosto. Fy mhartner, fy baromedr i raddau helaeth, o ran fy iselder, a wthiodd fi i wneud apwyntiad yn fy meddygfa leol.

Hwn oedd y gwthiad yr oeddwn ei angen. Ar y cyd, gyda fy meddyg teulu, dechreuais gael y gefnogaeth rydw i nawr yn sylweddoli bod gwir angen arnaf. Cefais fy rhoi ar feddyginiaeth a’m  cyfeirio at sawl gwahanol ddosbarthiadau, gan gynnwys un ar ymwybyddiaeth straen. Penderfynais hefyd gymryd peth amser i ffwrdd o'r gwaith er mwyn dechrau gofalu amdanaf fy hun.

Am yr wythnosau cyntaf cysgais ... llawer.  Nid oeddwn wedi bod yn cysgu'n dda, ond roedd yr egwyl o bryderon gwaith yn caniatáu i'm meddwl orffwys. Dechreuais hefyd ailgysylltu â fy nheulu a ffrindiau, gan agor iddynt o'r diwedd am yr hyn yr oeddwn yn ei deimlo ac yn ei brofi. Y peth mwyaf rhyfeddol a ddaeth allan o hyn oedd faint ohonyn nhw oedd wedi profi materion iechyd meddwl hefyd. Mae'n rhywbeth nad oeddem erioed wedi am gyda'n gilydd, ond ar ôl i mi ddechrau'r sgyrsiau hynny, darganfyddais fod llawer ohonynt hefyd wedi mynd trwy brofiadau tebyg.

Doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun!

Wrth i amser fynd yn ei flaen, dechreuais adennill fy hyder. Dychwelais i'r gwaith ar ôl sawl mis i ffwrdd, ond nawr gan wybod ychydig mwy amdanaf fy hun a'r hyn yr oeddwn ei angen, roeddwn i'n gwybod ei bod hi'n bryd symud ymlaen. Dechreuais weithio i Brifysgol Caerdydd.

Dechreuais wneud y pethau roeddwn i'n eu mwynhau eto, mynd i gigs, gwrando ar gerddoriaeth, cymdeithasu â ffrindiau a dechrau cadw’n heini. Dechreuodd fy mhartner a minnau fusnes bach a ffynnodd yn dda iawn.

O ran gwaith, roedd AaGIC yn cael ei greu, rhywbeth roeddwn yn optimistaidd iawn yn ei gylch. Fe wnaeth y cyfle i fod yn greadigol ac arloesol fy nghyffroi ac roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn y gallai ddod.

Rwyf wedi profi cyfnodau o iselder eto ers 2013, gan gynnwys un cyfnod sylweddol tuag at ddiwedd 2018. Er bod y cyfnodau hyn yn fy mywyd yn dywyll, rydw i'n gwybod nawr eu bod nhw'n rhywbeth y mae angen i mi ei brofi er mwyn tyfu. Bob tro rwy'n mynd drwyddynt, rwy'n dysgu ychydig mwy amdanaf fy hun, am fecanweithiau ymdopi newydd neu rwy'n nodi rhwydweithiau cymorth newydd i'm helpu drwodd, fel ‘Andy’s Man’s Club’.

Mae ‘Andy’s Man Club’ yn grŵp cymorth sy'n cael ei redeg gan ddynion, ar gyfer dynion. Dim ond ar hap y gwelais daflen yn hysbysebu'r grŵp ac rwy'n cofio peidio mynychu fy ymweliad cyntaf ar y funud olaf, ond ar ôl siarad â'm partner (a oedd fel bob amser, yn hynod gefnogol), fe wnes i adeiladu'r dewrder i fod yn bresennol a minnau mor falch y gwnes i. Roedd, ac mae'n dal i fod, yn gysur gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun yn yr hyn rydw i'n mynd drwyddo. Mae'n swnio fel ystrydeb, ond unwaith yr wythnos, dwi'n cael eistedd gyda phobl, fel fi sydd ddim ond eisiau siarad, yn rhydd o farn a beirniadaeth. Mae hyd yn oed yn iawn os nad ydw i eisiau datgelu unrhyw beth. Os ydw i eisiau eistedd yno a gwrando, rwy'n cael fy nghroesawu a'm trin â pharch.

Rwy'n bendant yn teimlo bod stigma o gwmpas iechyd meddwl, nid yn unig i ddynion, ond yn gyffredinol. Stigma, rwy'n credu, efallai ein bod ni'n creu ein hunain yn rhannol. Er fy mod bellach yn llawer mwy agored wrth siarad am fy iechyd meddwl, nid wyf yn dal i deimlo'n gyffyrddus yn dweud mai dyna'r rheswm efallai y bydd angen i mi gymryd peth amser i ffwrdd o'r gwaith neu gymryd amser i edrych ar ôl fy hun.  Rwy'n teimlo oherwydd na all unrhyw un weld fy salwch, efallai na fyddant yn fy nghredu nac yn fy neall.

Fy nghyngor i unrhyw un, gwryw neu fenyw sy'n profi problemau iechyd meddwl yw siarad â rhywun. Mae iselder ysbryd mor anodd oherwydd mae'n gwneud i chi deimlo mor ynysig ac ar eich pen eich hun. Nid yw hyn yn wir. Efallai y bydd cael y sgwrs gychwynnol honno gyda meddyg teulu, partner, ffrind neu wasanaeth cymorth yn teimlo fel y peth anoddaf yn y byd i'w wneud, ond wir, ar ôl i chi ei wneud, byddwch yn sylweddoli nad oedd unrhyw beth i fod ag ofn.

Rwy'n gwybod nad yw fy iselder wedi mynd, ni fydd byth, ond gallaf edrych ymlaen yn awr at y dyfodol gan wybod pan fydd yn dod yn ôl, mae gen i'r gefnogaeth, yr hyder a'r profiad i fynd drwyddo.

 

Ble gallwch chi gael cefnogaeth?

Mae ANDYSMANCLUB yn cwrdd bob nos Lun am 7pm yng nghlwb rygbi Porthcawl. Mae'r sesiynau'n agored i unrhyw ddyn dros 18 oed ac er mai'r prif nod yw lleihau cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion, nid oes angen i ddynion fod wedi cael mater iechyd meddwl na meddyliau hunanladdol i fod yn bresennol.

Yn ein profiad ni mae yna ddynion sydd naill ai newydd ddod trwy storm, mewn storm neu sydd â storm ar afael.

Yn y sefyllfa bresennol gyda’r clo dros dro a methu â chyfarfod yn bersonol mae'r grwpiau'n cael eu cynnal ar blatfform ar-lein a dylai unrhyw un sydd gyda diddordeb i ymuno gysylltu â info@andysmanclub.co.uk.