Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant ychwanegol i barafeddygon i hybu gofal iechyd yn y gymuned

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i helpu parafeddygon i ddod yn ymarferwyr parafeddygol uwch (APPs)

Mae APPs yn barafeddygon cofrestredig sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol yn y Brifysgol sy'n arwain at gymhwyster Meistr.

Y prif fanteision yw lleihau'r galwadau i'r system 999, trin cleifion yn y gymuned, eu cyfeirio at feddyg teulu neu benderfynu a ddylent fynd i'r ysbyty. Gallant weinyddu ystod lawer ehangach o feddyginiaethau a rheoli mwy o gleifion ag anghenion gofal cymhleth yn nes at eu cartrefi.

Mae gan y parafeddyg modern alluoedd unigryw sy'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o drawsnewid a darparu gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus dros y 18 mis diwethaf, mae darparwyr gwasanaethau wedi dangos manteision ehangu nifer yr APPs yng Nghymru.

Mae cymorth ar gyfer MSc rhan-amser mewn ymarfer clinigol uwch wedi bod ar waith dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r arian newydd hwn ar gyfer rhaglen lawn-amser a bydd yn caniatau i APPs fod yn gymwys yn gynt ac ategu'r rhai a ymgymerodd â'r rhaglen ran-amser.

Roedd cyflwr neu bryder traean o'r cleifion a welwyd gan APPs yn eu cartrefi eu hunain, a chyfeiriodd un o bob pump ohonynt at lwybr amgen. Mae tystiolaeth a adolygwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn iechyd a gofal yn dangos bod defnyddio APPs yn gallu lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty 13 y cant o'i gymharu â pharafeddygon safonol.

Mae hyn yn dangos gallu'r gweithlu'r APP i wella a'r fantais o ddatblygu a chefnogi staff i ennill arbenigedd clinigol.  

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn rhagweld y gall, drwy chwarae prif rôl o ran darparu gofal heb ei drefnu, sicrhau bod mwy o effeithlonrwydd, cynhyrchiant a mwy o ofal yn cael eu darparu mewn lleoliad yn y gymuned. 

Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio AaGIC:

“Bydd ehangu'r cynnig clinigol yn yr ardal hon yn gwneud cyfraniad materol a chadarnhaol i'r system iechyd yng Nghymru a'r canlyniadau y gall cleifion eu disgwyl gan wasanaeth ambiwlans modern. Mae'r broses o gyflwyno rhaglen yr APP yn rhan sylfaenol o'r thema hon. 

Ychwanegodd: 

“Mae'r cynnydd hwn mewn lleoedd hyfforddi i barafeddygon i ddod yn uwch ymarferwyr yng Nghymru yn gam mor gadarnhaol ymlaen.  Yr ydym i gyd yn hynod falch o'r canlyniad hwn.

"Bydd yr hyfforddiant uwch yn gwella'r set sgiliau presennol ac yn darparu datblygiad gyrfaol i weithlu sy'n cael ei werthfawrogi. Wedyn gall eu sgiliau a'u harbenigedd helpu i leddfu'r pwysau ar y gwasanaethau brys a sicrhau y gofelir am gleifion yn y lleoliad mwyaf perthnasol.”


Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Parafeddygaeth yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: 

“Rydym yn croesawu'r cymorth a ddarperir gan AaGIC. Mae ein Hymarferwyr Parafeddygol Uwch wedi profi eu bod yn cael effaith wirioneddol o ran darparu gofal gwell yn nes at y cartref i'n cleifion a lleihau'r derbyniadau i'r ysbyty. Ein hamcan yw hyfforddi mwy o APPs yn y blynyddoedd i ddod a gwerthfawrogir cefnogaeth sefydliadau eraill o GIG Cymru yn fawr.”

Mae'r cwrs MSc mewn Ymarfer Uwch llawn amser yn cael ei hwyluso ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Glyndwr Wrecsam a Phrifysgol Abertawe.