Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant Therapi Ocsigen Newydd AaGIC

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod hyfforddiant 'Therapi Ocsigen' AaGIC bellach yn fyw ar ein gwefan.

Beth ydyw ac ar gyfer pwy mae e?

Datblygwyd y pecyn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a fydd yn delio â'r cyflenwad o ocsigen, rhagnodi a gweinyddu yn ystod pandemig COVID-19.

Dyma'r meysydd y mae'r pecyn yn eu cynnwys:

  • dulliau o ddarparu ocsigen i safleoedd aciwt ac ysbytai eraill
  • gwahanol ffynonellau ocsigen y gellir eu defnyddio mewn ymarfer clinigol
  • dulliau o amcangyfrif gallu'r systemau cyflenwi ocsigen, i gyd-fynd â gofynion y claf o ran cynnydd COVID-19, mewn gwahanol leoliadau
  • dulliau gwahanol o weinyddu therapi ocsigen i gleifion
  • arferion da ar gyfer rhagnodi, gweinyddu a monitro therapi ocsigen.

Pam y cafodd ei ddatblygu?

Mae pandemig clefyd coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at nifer fawr o gleifion sydd angen cymorth resbiradol. Mae therapi ocsigen yn driniaeth ar gyfer lefelau isel o ocsigen yn y gwaed ac mae'n ymyriad mawr i gleifion sy'n ddifrifol wael, gan gynnwys y rhai â COVID-19 difrifol. Mae'r cynnydd hwn yn y defnydd o ocsigen yn golygu y gall mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ymwneud â rhai agweddau ar therapi ocsigen neu bob agwedd arno, felly efallai y bydd angen eu huwchsgilio yn y maes hwn. 

Sut y gall pobl gael gafael arno?

Gallwch gael mynediad at hwn drwy ein gwefan a gellir dod o hyd i ganllawiau ar hyn yma. https://learning.wcppe.org.uk/course/view.php?id=2741

Beth yw'r manteision ?

Mae'r hyfforddiant newydd hwn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol addasu'n gyflym i'r heriau newydd o roi ocsigen i gleifion sy'n ddifrifol wael yn ystod pandemig covid-19 a sicrhau y gall y gweithlu roi cymorth diogel i unigolion â'u gofynion o ran ocsigen.