Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant efelychu yn bwrw ymlaen ar draws GIG Cymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi sefydlu tîm canolog newydd i hyrwyddo arfer gorau ym maes addysg a hyfforddiant y gweithlu gofal iechyd drwy Addysg yn Seiliedig ar Efelychu (SBE) ledled Cymru. Bydd tîm rhyngbroffesiynol gan gynnwys cynrychiolwyr Meddygol, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn cefnogi datblygiadau a mentrau yn y dyfodol er mwyn cydweithio gan adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud ledled Cymru.

Mae SBE yn agwedd gynyddol bwysig ar gwricwla ar draws proffesiynau gofal iechyd ac mae ar sawl ffurf sy'n hwyluso datblygiad proffesiynol unigolion a thimau clinigol ac sydd o fudd i gleifion yn y pen draw.  Mae'r pandemig COVID-19 diweddar wedi tynnu sylw at werth hyfforddi meddygon, nyrsys a phob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gan ddefnyddio dulliau efelychu arloesol, modiwleiddio ac offer.

Meddai Alex Howells, Prif Weithredwr, AaGIC, "Mae datblygu'r tîm aml-broffesiynol yn darparu mecanwaith i wella a chydgrynhoi ein dull o ymdrin ag SBE ac adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud gan Fyrddau Iechyd yng Nghymru."

"Byddwn yn rhoi sylfeini allweddol ar waith i gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg SBE ledled Cymru gan hyrwyddo ansawdd, cysondeb a sicrhau bod gofynion a safonau cwricwla presennol yn cael eu bodloni."

Dywedodd Y Meddygon Sara-Catrin Cook, Cristina Diaz-Navarro a Suman Mitra, Deoniaid Cysylltiol, "Rydym yn gyffrous iawn i fanteisio ar y cyfle hwn i weithio ochr yn ochr â'r gymuned efelychu Gymreig. Mae gwaith efelychu gwych yn digwydd ledled Cymru. Yr ydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy amdano ac at hyrwyddo'r holl arferion gwych sy'n digwydd. Byddwn yn falch iawn o ddatblygu SBE yng Nghymru ymhellach ar y cyd, gan gefnogi syniadau a mentrau newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg"

Y digwyddiad cyntaf a gynhelir gan y tîm fydd y COVID ac Efelychu yng Nghymru Gweminar 20fed Hydref 2020, 9.30 i 12.30.  I gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac a, ddim hen, dilynwch y ddolen

https://heiwsim1020.eventbrite.co.uk 

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am y gweminar.