Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddeion deintyddol o Gymru wedi'u gwobrwyo mewn cynhadledd genedlaethol

Dental trainee working on teeth

Mae hyfforddeion deintyddol ledled Cymru wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith arloesol yng Nghynhadledd Arbenigeddau Deintyddol Ysbytai Cymru.

Mae’r gynhadledd yn rhoi’r cyfle i hybu datblygiad proffesiynol hyfforddeion deintyddol a’r cyfle iddynt gyflwyno eu gwaith ar lefel genedlaethol i banel beirniaid o ymgynghorwyr.

Wedi’i mynychu gan dros 150 o weithwyr deintyddol proffesiynol o gefndiroedd ysbytai a chymunedol, mae’r gynhadledd wedi’i chydweithredu rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Grŵp Arbenigedd Ysbyty Cymdeithas Ddeintyddol Prydain.

Eleni derbyniodd saith hyfforddai deintyddol wobrau ar sail y cyflwyniad gorau, adroddiadau achos neu brosiectau gwella ansawdd, neu’r poster gorau mewn categorïau gan gynnwys llawfeddygaeth y geg ac yr ên a’r wyneb a meddygaeth y geg, orthodonteg a deintyddiaeth bediatreg, a deintyddiaeth adferol a gofal arbennig.

Dywedodd Will McLaughlin, Deon Cysylltiol (Hyfforddiant Craidd Deintyddol a Hyfforddiant Arbenigedd Deintyddol) yn AaGIC: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran ac a wobrwywyd yn y gynhadledd eleni, sy’n gam cynnar pwysig i fyd cyflwyno mewn arena gyhoeddus sylweddol ar gyfer staff iau.”

Head shot of Catherine Hershaw

Dywedodd yr hyfforddai deintyddol Catherine Hershaw [yn y llun ar y dde], a enillodd y wobr poster gorau yn y Categori Orthodonteg/ Deintyddiaeth Bediatreg: “Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr hon; mae’n golygu llawer i mi i dderbyn cydnabyddiaeth o’m gwaith fel hyn.”

“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn Orthodonteg ac edrychaf ymlaen at gyflwyno prosiectau pellach mewn cynadleddau yn y dyfodol.”

Enillodd Caron Pari'r wobr am y cyflwyniad gorau yn yr un categori, meddai: “Roedd ennill y wobr yn uchafbwynt cylchdro chwe mis ysbrydoledig mewn deintyddiaeth bediatreg yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

“Roedd yn brofiad newydd sbon cyflwyno fy achos yn y gynhadledd, ond roedd y sefydliad yn wych ac roedd yn werthfawr dysgu o brofiadau hyfforddeion craidd deintyddol eraill."

 

Y rhestr lawn o enillwyr yw:

Enillwyr categori Llawfeddygaeth y Geg ac yr Ên a’r Wyneb/ Meddygaeth y Geg:

  • Cyflwyniad gorau - Nicola Gallagher

“Breuder fel dangosydd cymhlethdodau ôl-driniaethol yn dilyn toriad llawfeddygol o ganser y croen nad yw’n felanoma (NMSC)”

  • Poster gorau - Philippa Barnes

“Prosiect gwella ansawdd i wella’r defnydd o’r system Cronfa Ddata Sgwrs Tîm gan Uwch-swyddogion Preswyl OMFS dros 4 mis”

Enillwyr categori Orthodonteg/ Deintyddiaeth Bediatreg:

  • Cyflwyniad gorau - Caron Pari

“Rheoli achos gyda Hypodontia Difrifol sy’n gysylltiedig â Dysplasia Ectodermig Hypoheidrotig”

  • Poster gorau - Catherine Hershaw

“Gwerth diagnostig orthopantomogramau o ran canfod atsugniad dannedd blaen ochrol sy’n gysylltiedig â dannedd llygaid ectopig”

Enillwyr categori Deintyddiaeth Gofal Adferol/ Arbennig:

  • Cyflwyniad gorau ar y cyd - Glesni Guest-Rowlands

“Ydych chi’n adnabod eich cyffuriau? Asesiad o wybodaeth myfyrwyr deintyddol israddedig ym mherthynas rheoli cleifion sy’n camddefnyddio sylweddau”

  • Cyflwyniad gorau ar y cyd - Sophie Bryant

“Gwella Gwasanaeth: Diweddariad Taflenni Gwybodaeth Cleifion ynghylch Tawelyddu Anadlol ac IV sy’n Cydymffurfio â Safonau IACSD”

  • Poster Gorau - Sarah Alwan

“Asesu Budd Adolygiad Seiliedig ar Dystiolaeth o Daflen Wybodaeth i Gleifion ar Ofal Oro-Ddeintyddol ar gyfer Cleifion Radiotherapi”