Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddeion a goruwchwylwyr fferyllol sylfaenol wedi derbyn cydnabyddiaeth mewn digwyddiad gwobrwyo blynyddol

Trophy with gold confetti

Dathlodd ac arddangosodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y gorau o fyd fferylliaeth sylfaenol yn eu digwyddiad gwobrwyo blynyddol yr wythnos ddiwethaf.

Wedi’i gynnal yn rhithwir oherwydd cyfyngiadau COVID-19 parhaus, cynhwysai’r digwyddiad wyth cyflwyniad poster gan enillwyr rhanbarthol a thrafodaeth banel cyn i’r beirniaid ddyfarnu’r tair gwobr derfynol; Enillydd y Gystadleuaeth Poster Flynyddol ac ychwanegiadau newydd ar gyfer 2021, Hyfforddai’r Flwyddyn a Goruwchwyliwr y Flwyddyn.

Dywedodd derbynnydd Goruwchwyliwr y Flwyddyn, Samantha Clitheroe “Hoffwn ddiolch i AaGIC a’m cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu cefnogaeth anhygoel.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda fferyllwyr cyn-gofrestru, gan eu cefnogi yn eu datblygiad fel fferyllwyr effeithiol, tosturiol a grymusol i’r dyfodol.”

Hefyd yn fuddugol ar y noson oedd James Taylor gyda’i boster ar ragnodi gwrthficrobaidd mewn gofal sylfaenol. Meddai “Fe wnes i fwynhau llunio’r archwiliad hwn yn fawr, a chael y cyfle i’w gyflwyno i gydweithwyr ledled y wlad.

“Er mai’r pandemig, o bosib, fu amser mwyaf heriol fy ngyrfa, mae wedi bod mor werthfawr cael helpu cleifion drwy’r amser mwyaf heriol yn eu bywydau hwy.”

Derbyniodd Nguyen Khoi Ho y wobr Hyfforddai’r Flwyddyn.

Dywedodd Dr Bethan Broad, Arweinydd Gweithredol Hyfforddiant Sylfaenol a threfnydd y digwyddiad “Roedd yn fraint cael cynnal y digwyddiad Gwobrwyo Blynyddol eleni.

“Roeddem ar ben ein digon gydag ansawdd y prosiectau archwilio a gyflwynwyd gan ein hyfforddeion sydd wedi gweithio’n eithriadol galed a dangos gwytnwch anhygoel trwy gydol yr amser heriol hwn.”

Dyfarnwyd tystysgrif i’r tri enillydd yn gyfochr ag aelodaeth flwyddyn lawn â’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, wedi’i thalu amdani gan AaGIC.

James Taylor Nguyen Khoi Ho Samantha Clitheroe
Enillydd y Gystadleuaeth Poster - James Taylor Hyfforddai’r Flwyddyn - Nguyen Khoi Ho  Goruwchwyliwr y Flwyddyn - Samantha Clitheroe