Mae Cymrawd Hyfforddiant Arweinyddiaeth glinigol Cymru Dr Rachel Lee yn gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i helpu i gau'r bwlch cyrhaeddiad gwahaniaethol ar sail ethnigrwydd ymhlith meddygon iau yng Nghymru.
Er mwyn dechrau ar ei hymchwil byddai Rachel yn hoffi deall yn well pa faterion y mae meddygon o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) a graddedigion meddygol rhyngwladol (IMG) yng Nghymru yn eu hwynebu, fel y gall deilwra unrhyw ymyriadau i'w dymuniadau a'u hanghenion penodol.
I wneud hyn, mae Rachel yn gwahodd pob meddyg iau yng Nghymru i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws bach mewn ysbytai ledled Cymru.
Bydd y grwpiau ffocws yn cymryd 60 – 90 munud a byddant yn cynnwys holiadur byr i ddiffinio eich cefndir a thrafodaeth strwythuredig o amgylch eich profiadau personol. Yna caiff y sylwadau eu tynnu'n ddienw a'u cyflwyno i AaGIC mewn adroddiad dadansoddi thematig.
Os ydych yn feddyg iau yng Nghymru ac yn dymuno gwirfoddoli i fynychu grŵp ffocws, dilynwch y ddolen berthnasol Eventbrite isod.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Rachel Lee ar Rachel.Lee9@wales.nhs.uk
Lleoliad |
Dyddiad |
Amser |
Dolen gofrestru |
Ysbyty Athrofaol Cymru |
15 Tachwedd 2019 |
1pm-3pm |
https://www.eventbrite.co.uk/e/uhw-differential-attainment-focus-group-tickets-76739737621
|
Ysbyty Athrofaol Cymru |
18 Tachwedd 2019 |
8.30am-10.30am |
https://www.eventbrite.co.uk/e/uhw-differential-attainment-focus-group-tickets-76740620261
|
Ysbyty Tywysog Siarl |
26 Tachwedd 2019 |
3pm-5pm |
|
Ysbyty Tywysog Siarl |
26 Tachwedd 2019 |
5pm-7pm |
|
Ysbyty Tywysoges Cymru |
5 December 2019 |
3pm-5pm |
|
Ysbyty Tywysoges Cymru |
5 December 2019 |
5pm-7pm |
|
Ysbyty Brenhinol Morgannwg |
25 Tachwedd 2019 |
3pm-5pm |
|
Ysbyty Brenhinol Morgannwg |
25 Tachwedd 2019 |
5pm-7pm |
|
Ysbyty Bronglais |
16 Rhagfyr 2019 |
2pm-4pm |
|
Ysbyty Bronglais |
27 Tachwedd 2019 |
5pm-7pm |
|
Ysbyty Glangwili |
28 Tachwedd 2019 |
12:30pm-2pm |
|
Ysbyty Glangwili |
28 Tachwedd 2019 |
3pm-4:30pm |
|
Ysbyty Wrecsam Maelor |
16 Ionawr 2020 |
3pm-5pm |
|
Ysbyty Wrecsam Maelor |
16 Ionawr 2020 |
6:30pm-8pm |
|