Neidio i'r prif gynnwy

Hanes Pobl Dduon – teithiau drwy Covid-19

Gan gydnabod bod y 1af o Hydref yn nodi dechrau Mis Hanes Pobl Dduon, rydym fel sefydliad yn falch o gyhoeddi dechrau ein hymgyrch ‘Hanes Pobl Dduon - teithiau drwy Covid-19’.

Bydd y fenter hon yn ein gweld yn casglu ac yn rhannu profiadau a straeon gan ein myfyrwyr, hyfforddeion a meddygon SAS o dreftadaeth Affricanaidd a Charibïaidd, gyda ffocws ar Covid-19.

Gan ffurfio rhan o weithredoedd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, mae'r gwaith hanesyddol a chyffrous hwn yn cydnabod ein hymrwymiad i ddarparu rhaglen barhaus sy'n dathlu sut mae amrywiaeth a chynhwysiant wedi cynorthwyo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac wedi gwella arfer.

Rydyn yn edrych ymlaen i rannu mwy gyda chi’n fuan.