Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad ar yr argymhellion drafft ar gyfer Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol yn GIG Cymru bellach ar agor.

Ysgrifennwyd yr argymhellion hyn gan y Rhwydwaith Gwyddorau Gofal Iechyd, grŵp proffesiynol sy'n cynghori Cyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddor Iechyd a Llywodraeth Cymru ar y proffesiynau gwyddor gofal iechyd.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi yn yr un modd ar gyfer ymgynghorwyr mewn meddygaeth, deintyddiaeth ac iechyd y cyhoedd, and nyrsio, bydwreigiaeth a phroffesiynau iechyd cysylltiedig.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw asesu effaith yr argymhellion hyn gan Wyddonwyr Clinigol Ymgynghorol ar gyfer datblygu gyrfa, darparu gwasanaethau a gofal o ansawdd ar draws GIG Cymru. Gofynnir yn benodol am safbwyntiau gan unigolion ac ar draws y grwpiau sefydliadol a phroffesiynol canlynol:

- Gwyddor Gofal Iechyd

- Gweithlu ac OD

- Cynllunio

- Cyllid

- Proffesiynau Perthynol i Iechyd

- Nyrsio a Bydwreigiaeth

- Proffesiwn meddygol

Ymatebwch drwy'r arolwg ar-lein.

Mae Hysbysiad Ymgynghoriadau a Phreifatrwydd AaGIC yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn rheoli unrhyw wybodaeth a gasglwn.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar ôl 3 wythnos ddydd Iau 18 Tachwedd 2021 am 5pm.