Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gwella AaGIC 2021/22

Dr Joy McFadzean, Meddyg Teulu

Mae tîm Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd AaGIC (QIST) yn falch iawn o gyhoeddi, ddydd Gwener, 19 Awst 2022, y dyfarnwyd Gwobr Gwella AaGIC 2021/22 i Dr Joy McFadzean, Meddyg Teulu, am ei phrosiect gwella ansawdd, o’r enw:

Rhagnodi gwrthgeulydd geneuol uniongyrchol (DOAC) ym Meddygfa Clydach, Abertawe

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar wella’r monitro,yr addysgu a’r rheolaeth amlbroffesiynol yn ymwneud â DOACs o fewn y lleoliad gofal sylfaenol cymunedol. Mae’n gynllun ardderchog a gafodd effaith uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion. 

Fel enillydd y wobr, bydd Dr McFadzean yn derbyn cymorth, a chyllid, gan y tîm QIST yn AaGIC, i ysgrifennu ei phrosiect i’w gyhoeddi yn y Cylchgrawn Meddygol Prydeinig (BMJ Open).

Soniodd Dr McFadzean am lwyddiant ei phrosiect a’i phrofiad o ymgymryd â hyfforddiant Gwella Ansawdd (QI) gyda QIST, gyda’r datganiad hwn:

“Ar ôl mwynhau cyflawni prosiectau gwella ansawdd fel meddyg teulu dan hyfforddiant, roeddwn i eisiau dysgu mwy am theori QI – ac roeddwn wrth fy modd i fynychu’r cwrs ‘Gwella Ansawdd yn Ymarferol‘(‘IQT Silver’) gyda chymorth AaGIC. Roedd yr hyfforddiant yn wych, ac fe wnaeth anogaeth gan fentor QI profiadol fy nghynorthwyo i ddefnyddio'r sgiliau hynny mewn prosiect yn monitro meddyginiaeth gwrthgeulo mewn gofal sylfaenol. Helpodd QIST fi i gynllunio, defnyddio offer QI ac fe’m hatgoffwyd i ddogfennu pob cam o’r broses i ddeall beth oedd yn cael yr effaith fwyaf. Fe wnaeth y cwrs fy ysbrydoli i barhau â’m taith QI ac rydw i nawr yn dysgu QI i fyfyrwyr meddygol fel Darlithydd Meddyg Teulu. Byddwn yn annog pawb i fynychu QIST gan ei fod yn amhrisiadwy, yn eich cynorthwyo yn eich rolau ac yn helpu cefnogi gwelliannau mewn diogelwch cleifion.”

Mae Tîm QIST AaGIC yn gweithio mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru i ddatblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddi Gwella Ansawdd unigryw ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru. Mae methodoleg QI yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y gellir eu defnyddio i roi newidiadau amser real ar waith. Bydd y rhain yn gwella gwasanaethau iechyd a'r amgylchedd dysgu ym meysydd diogelwch cleifion, lles a chynaliadwyedd. 

Mae Gwobr Gwella AaGIC yn gystadleuaeth flynyddol sy'n agored i holl staff GIG Cymru. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno Prosiect Gwella Ansawdd wedi'i gwblhau i'w ystyried gan y panel gwobrwyo, gyda'r enillydd yn derbyn cymorth i'w gyhoeddi yn y cyfnodolyn proffesiynol perthnasol. 

Cyhoeddir y dyddiad agor am gyflwyniadau ar gyfer Gwobr 2022/23 yn ddiweddarach eleni. I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Gwella AaGIC neu raglen QIST, cysylltwch â’r tîm yn HEIW.QIST@wales.nhs.uk