Neidio i'r prif gynnwy

Gwirfoddolwyr – Diolch i Chi!

Dethlir Wythnos y Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn. Mae'n wythnos lle mae'r DU yn dathlu gwirfoddolwyr ac yn dweud diolch wrthynt am y cyfraniad y maent yn ei wneud.

Ledled y GIG, mae yna wirfoddolwyr di-rif sydd i gyd yn ymroddedig i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Rydym yn ddiolchgar i bob un ohonynt am eu hymdrechion ysbrydoledig.

Eleni, roeddem yn awyddus i roi goleuni ar raglen y mae AaGIC yn ei chefnogi, sy'n cynnig cyfleoedd anhygoel, gwirfoddol i bobl ifanc. Mae Cynllun Cadetiaid Nyrsio Coleg Brenhinol y Nyrsys, Tywysog Cymru, yn rhoi mynediad at gyfleoedd ar gyfer astudiaeth academaidd a phrofiad ymarferol yn y sector gofal iechyd i Cadetiaid Lluoedd y Fyddin (ACF).

O ganlyniad i'r cynllun hwn, mae un cadet 16 oed wedi dod yn weithiwr gofal iechyd yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.

Bydd Aiden Daniel, o Blaendulais, yn dechrau hyfforddi yn naill ai Ysbyty Port Talbot neu Dreforys yn fuan.

Penderfynodd y Cadet ACF Dyfed a Morgannwg ymuno ar ôl i'w astudiaethau coleg a'i swydd achub bywyd gael eu gohirio oherwydd y cyfnod cloi.

Dywedodd Aiden "Rwyf bob amser wedi bod eisiau gweithio fel ffisiotherapydd gan i fi gael llawdriniaeth fawr yn naw oed lle y treuliais chwe wythnos yn yr ysbyty, ac yr oeddwn yn edmygu'r holl staff yno a oedd yn gofalu amdanaf. Rwyf bob amser wedi bod eisiau rhoi yn ôl mewn unrhyw ffordd y gallwn. "

Dywedodd mam Aiden, Linda, "Rwy'n falch iawn o Aiden, er nad oeddwn i'n disgwyl y byddwn yn anfon fy mhlentyn 16 oed allan i weithio mewn pandemig.

Ychwanegodd Aiden iddo ddefnyddio ei brofiad o gynllun Cadetiaid Nyrsio'r RCN Tywysog Cymru i helpu i basio'r cyfweliad. Mae'r cynllun, a gefnogir gan ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, yn anelu at eu datblygu a'u paratoi ar gyfer bywyd a'u cefnogi i weithio ym maes nyrsio.

Rydym ni yn AaGIC yn falch iawn o allu ariannu cyfleoedd fel hyn i roi cipolwg ar y proffesiynau gofal iechyd. Mae'n anhygoel gweld pobl yn manteisio ar y cyfleoedd hyn ac yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfa ym maes gofal iechyd.