Gweminar Rhaglen Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
Hydref 2021 - dydd Iau 18 Tachwedd, 12:00 - 14:00
Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni'n cynnal ein Gweminar Rhaglen Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd nesaf yn ddiweddarach y mis hwn. Os nad ydych wedi cofrestru i ymuno â ni eto yna peidiwch â phoeni, fe allwch chi o hyd! Dilynwch y ddolen Eventbrite hon i gofrestru Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd / Allied Health Professions Tickets, Thu 18 Nov 2021 at 12:00 | Eventbrite
Ar ôl i chi gofrestru edrychwch ar y siaradwyr ar gyfer y sesiwn.
Rydym yn falch iawn o ddweud y bydd nifer o Weithwyr Proffesiynol Iechyd yn ymuno â ni ar y diwrnod a fydd yn rhannu eu profiad o fywyd o fewn y Proffesiynau Iechyd Perthynol. Ochr yn ochr â hyn byddwn yn rhoi cipolwg i chi ar y Rhaglen Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd gan gynnwys diweddariadau a throsolwg strategol. Bydd aelodau o Dîm Digidol AaGIC hefyd yn ymuno â ni i gyflwyno'r Fframwaith Digidol a fydd yn dylanwadu ar ffrydiau gwaith Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.
Ar ôl i chi glywed gan bob un o'n siaradwyr, cewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y Rhaglen Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a darganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.
Cyflwyniad a Diweddariadau i'r Rhaglen
Dr Wendy Wilkinson DProf MHSc (OccThy) BHSc (OccThy) MRCOT HCPC
Pennaeth Trawsnewid Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, AaGIC
Trosolwg Strategol
Lisa Llewelyn MSc (Health Sciences), BSc Hons (Nursing), RN, RM, RSCPHN
Cyfarwyddwr Addysg Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, AaGIC
Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni…