Neidio i'r prif gynnwy

Gweminar C&A fyw gyda'r Athro Michael West

Dyddiad: 19eg Rhagfyr 2019

Amser: 14.00 pm – 15.00 pm

Cyfle i glywed yr Athro Michael West yn ymateb i'ch cwestiynau ynglŷn â'r arfer o  arweiniad tosturiol ac ar y cyd- y dull sy'n sail i'r strategaeth Arweinyddiaeth newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Beth fydd y gweminar yn ei gynnwys:

  • Bydd yr Athro Michael West yn ateb cwestiynau a godwyd yng Nghynhadledd Arweinyddiaeth AaGIC yn ddiweddar              'Datblygu Cymru Iachach drwy ddiwylliant o arweinyddiaeth dosturiol'.
  • Bydd sesiynau C&A byw hefyd, gan alluogi cyfranogwyr i gyflwyno cwestiynau i Michael yn ystod y gweminar. 
  • Bydd cyfieithiad fyw ar gael os ydy pobl eisiau gofyn cwestiynau yn Gymraeg.

Dolen Gweminar

Cliciwch y ddolen isod i ymuno â'r gweminar mewn pryd i ddechrau am 14.00 pm ar 19eg Rhagfyr. 

https://eu.bbcollab.com/collab/ui/session/guest/d31b83273c3f41e8aa1 704ab08c569a0 

Profi mynediad i'r Gweminar; cliciwch y ddolen isod i brofi eich  meddalwedd er mwyn gallu cael mynediad i'r gweminar:

https://eu.bbcollab.com/guest/57d3200617794d1a9cc0f9b0f15f71e8 

Canllawiau Gweminar

Adnoddau:

Rydym yn argymell bod gennych feicroffon a clustffonau wedi'u cyflunio a'u plygio i'ch gliniadur neu gyfrifiadur. Unwaith eto, cyrhaeddwch yr ystafell yn gynnar fel y gallwch wirio fod yr offer yn gweithio. Fel arall, gallwch ddefnyddio'r rhan fwyaf o glustffonau gyda meicroffonau sy'n dod gyda ffôn symudol. Rydym yn argymell defnyddio clustffonau gan ei fod yn rhoi llai o ymyrraeth sain. 

Does dim angen camera gwe arnoch.

  • Chwiliwch am y ddolen isod i ymuno â'r gweminar mewn pryd i ddechrau am 14.00 pm heddiw: https://eu.bbcollab.com/collab/ui/session/guest/d31b83273c3f41e8aa1704ab08c569a0
  • Defnyddiwch Microsoft Edge, Google Chrome, neu Mozilla Firefox i gael mynediad i'r ddolen. Hefyd, gallwch ddefnyddio'ch ffôn clyfar neu'ch tabled i gael mynediad i'r gweminar.
  • Rhowch eich enw
  • Derbyniwch unrhyw bobol sy'n gofyn am gael mynediad i'ch meicroffon neu gamera – tra byddwn yn analluogi'r camera a mic i ddefnyddwyr fydd y meddalwedd ddim yn gweithio heb i chi wneud hyn.

Dyfais symudol:

Gallwch nawr ymuno â'n gweminarau drwy eich tabled neu'ch ffôn symudol. Gallwch ddefnyddio'r cyswllt ymuno â phorwr gwe'r dyfeisiau neu lawrlwytho un o'r apps isod. Bydd eich dyfais yn gofyn i chi ddefnyddio'r app pan fyddwch yn defnyddio'r dolenni a ddarperir yn yr e-bost hwn, unwaith y bydd yr ap wedi'i osod. 

Apple: https://itunes.apple.com/gb/app/blackboard/id950424861

Android: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.blackboard.android.bbstudent 

Porwr Gwe:

Dylai'r gweminar redeg mewn unrhyw borwr gwe, ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Google Chrome. 

Ystafell brofi:

Mae croeso mawr i chi gael mynediad i'r ystafell brofi ganlynol i ymgyfarwyddo â'r amgylchedd: https://eu.bbcollab.com/guest/57d3200617794d1a9cc0f9b0f15f71e8 

Canllaw cymorth:

Efallai yr hoffech ddarllen y canllaw canlynol yn gryno. Bydd y rhain yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi i ymgyfarwyddo â gweminarau a'r meddalwedd gweminar y byddwn yn ei defnyddio, Blackboard Collaborate Ultra: https://help.blackboard.com/Collaborate/Ultra/Participant