Gwelliannau i Staff Nyrsio mewn Wardiau Cleifion Mewnol Pediatrig
gan Dawn Parry, Arweinydd Prosiect Pediatrig
Gydag ail ddyletswydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016wedi'i hymestyn yn ddiweddar i wardiau cleifion mewnol pediatrig, mae'n gyfle gwych i bwyllo a myfyrio ar yr holl waith gwych y mae'r ffrwd waith bediatrig a'r rhanddeiliaid wedi bod yn ymwneud ag o. Mae'r gwaith hwn wedi sicrhau bod ardaloedd cleifion mewnol pediatreg wedi’u rhagbaratoi ac yn barod ar gyfer ymestyniad y Ddeddf ac yn cydymffurfio â gofynion.
Ers i mi ddechrau fy secondiad fel Arweinydd Prosiect Pediatrig, mae’r gwaith wedi cyflymu a thyfu. Mae hyn wedi cwmpasu, nid yn unig datblygu'r offeryn Lefelau Gofal Cymru Pediatrig (a ddefnyddir i gynorthwyo nyrsys i fesur aciwtedd a lefel o ddibyniaeth eu cleifion), ond hefyd tystiolaethu'r meysydd eraill sy'n cefnogi triongliant data i gyfrifo lefelau staff nyrsio.
Offeryn newydd gan nyrsys, ar gyfer nyrsys
Mae datblygu Lefelau Gofal Cymru Pediatreg mewn cydweithrediad â thimau nyrsio pediatrig rheng flaen ledled Cymru wedi bod yn rhan sylweddol o'r prosiect. Cynhaliwyd hyn drwy gyfres o weithdai cenedlaethol, sesiynau dosbarth meistr a thrafodaethau, a gwrando ar sylwadau ac awgrymiadau.
Mewn amgylchedd gwaith sydd eisoes yn brysur, ni ddylid tanbrisio'r heriau y mae timau nyrsio wedi’u hwynebu wrth ddysgu i ymdrin â’r offeryn. Fel arweinydd prosiect penodedig, roeddwn yn gallu gweithio gyda nhw i gynnig cymorth wedi'i deilwra gan ddefnyddio technegau gwella ansawdd. Roedd hyn yn eu galluogi i sicrhau bod y data yr oeddent yn ei gyflwyno yn ddibynadwy ac yn gyflawn. Rwy'n falch iawn o ddweud bod y ddogfen a ddefnyddir heddiw wedi’i chreu gan nyrsys pediatrig ar gyfer nyrsys pediatrig.
Angen holiaduron i helpu i roi llais i bobl
Mae'r diffyg tystiolaeth ar gyfer dangosyddion ansawdd sy’n berthynol i nyrsys sy'n ymwneud yn benodol â wardiau pediatrig ar gyfer cleifion mewnol wedi bod yn heriol. Unwaith eto, roedd profiad nyrsys pediatrig rheng flaen yn hanfodol a thrwy ddefnyddio dull consensws, rydym wedi nodi pedwar dangosydd ansawdd i gefnogi'r gwaith o gyfrifo lefelau staff nyrsio;
Gellir dal tri o'r dangosyddion a nodwyd gan ddefnyddio dulliau cyfredol o adrodd am ddigwyddiadau. Fodd bynnag, roedd systemau amrywiol ar waith i ddal profiadau cleifion a staff. Mae'r grŵp ffrwd waith wedi datblygu arolwg sifft staff. Mae dau gynllun peilot wedi cael eu cwblhau ac mae adborth gan staff drwy gyfrwng holiaduron wedi bod yn gadarnhaol iawn. Y nod yw cwblhau'r arolwg ochr yn ochr â'r archwiliad hanner blynyddol. Cytunodd y grŵp a'n rhanddeiliaid, sef y plant a'r bobl ifanc, fod hwn yn gyfle gwych i ddatblygu holiaduron profiad cleifion cenedlaethol a chaffael profiad ein holl gleifion a'u teuluoedd.
Dyfeisiwyd tri holiadur ar wahân:
Cynlluniwyd yr holiaduron i ystyried anghenion plant a phobl ifanc a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol gan ddefnyddio symbolau y maent yn gyfarwydd â hwy o ysgolion.
Mae timau anableddau dysgu wedi cefnogi datblygiad poster sy'n helpu rhieni a/neu staff nyrsio i gefnogi'r plant a'r bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i gwblhau'r holiaduron. Mae'n sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Mae'r holiaduron hyn bellach yn cael eu cyflwyno mewn byrddau iechyd ledled Cymru.
Gêm fwrdd arloesol ar gyfer nyrsys – barn broffesiynol
Rhan olaf y triongl yw barn broffesiynol. Disgrifiwyd hyn fel ffactor hanfodol o ran sicrhau gofal effeithiol o ansawdd uchel i'n cleifion. Fe'i dilysir trwy drionglu'r naratif yn erbyn y ddwy ffynhonnell ddata arall i gyfrifo lefel staff nyrsio.
Fel dull o wella barn broffesiynol, rydym wedi datblygu gêm fwrdd arloesol. Mae'n rhoi llwyfan i nyrsys rheng flaen archwilio, dysgu a datblygu profiadau, yn ogystal ag adeiladu ar eu doethineb ymarferol mewn amgylchedd diogel.
Mae'r gêm yn seiliedig ar senario lle gofynnir i'r cyfranogwyr adeiladu eu ward gan ddefnyddio amrywiaeth o gydrannau. Mae'r senarios yn rhoi cyfle i'r chwaraewyr, yn benodol y prif nyrsys, wneud dewisiadau moesol a moesegol sy'n aml yn fwy cymhleth na ‘gwneud y peth cywir neu anghywir’ yn unig. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gwestiynau, myfyrdodau ac nid yw'n cynnig atebion rhagnodol.
Mae'r ffrwd waith bediatrig yn cydweithio â'r grŵp Accelerate, (rhan o'r Hwb Gwyddorau Bywyd sy'n cefnogi syniadau newydd ac arloesol y gellir eu cyfaddasu i ofal iechyd) a chydweithwyr yn y byd academaidd. Mae'r cydweithrediadau hyn yn rhoi i ni y fantais ychwanegol o arbenigedd a phrofiad helaeth mewn dylunio wedi’i ganoli ar y defnyddiwr, arfarnu profiad defnyddwyr, a dadansoddi ymddygiadol. Bydd y sgiliau ychwanegol hyn yn ein galluogi i fireinio'r gêm ymhellach yn fersiwn broffesiynol a digidol a allai fod â chyfranogiad cenedlaethol a rhyngwladol o bosibl.
Casgliad
Drwy gydol y daith hon, bu ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ffactor allweddol; o dimau nyrsio a rheoli rheng flaen, grwpiau rhieni a gofalwyr, a'r plant a'r bobl ifanc eu hunain.
Roedd sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn dilyn ymagwedd Hawliau Plant, yn gynnar yn y prosiect, yn elfen bwysig o ddatblygiad y gwaith.
Cefais y fraint o fod wedi gallu mynychu cyfarfodydd bwrdd ieuenctid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCaF). Rwyf hefyd wedi cael y pleser o gymryd rhan mewn gweithdai ar benwythnosau preswyl Grŵp Llysgenhadon Ieuenctid Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle mae plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cyfarfod yn rheolaidd.
Mae'r grwpiau wedi cefnogi datblygiad ystod o ddeunyddiau gwybodaeth gwych sy'n addas ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys eu fersiwn eu hunain o Lefelau Gofal Cymru Pediatreg a phoster Cwestiynau Cyffredin i alluogi plant a phobl ifanc i ddeall y Ddeddf. Mae'r grwpiau hefyd wedi bod yn allweddol o ran datblygu holiaduron profiad cleifion.
Mae’r rôl arweinydd prosiect wedi bod yn gyffrous ac yn heriol. Yn bersonol, rwyf wedi datblygu sgiliau sydd ymhell y tu hwnt i'm lefel gyfforddus; o gynnal digwyddiadau ymgysylltu cenedlaethol, datblygu cynhyrchion newydd ac arloesol, cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol, darparu sesiynau hyfforddi i dimau nyrsio a gweithio gyda grŵp pwysig o randdeiliaid.
Bydd effaith ymestyn ail ddyletswydd y Ddeddf yn nerthu timau nyrsio. Bydd yn eu galluogi i gael llais cryfach i sicrhau bod ganddynt y lefelau cywir o staff nyrsio i ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel i'n cleifion a'u teuluoedd yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan ar gael ar ein tudalennau gwe penodedig drwy wefan AaGIC.