Neidio i'r prif gynnwy

Gweithredu'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn AaGIC

Mae Ibby Osman, intern EDI gyda’r  tîm Datblygu Sefydliadol, Llesiant a Chynhwysiant yn gweithio i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith ymhellach yn AaGIC:

"Fel un o raddedigion Academi Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol fy rôl yw cefnogi a chynghori sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru ar sut i weithredu a bod yn llysgennad dros Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol Cymru.

Ers ymuno ag AaGIC, rwyf wedi treulio’r ychydig fisoedd diwethaf yn gweithio gyda’r tîm Datblygu Sefydliadol, Llesiant a Chynhwysiant i nodi meysydd lle gallaf gryfhau’r Ddeddf o fewn ein gwaith, megis creu cyfleoedd i gydweithio ac estyn allan i gymunedau sy’n aml yn anodd eu cyrraedd.

Mae creu cymuned gydlynol a Chymru gyfartal yn bwysig i’n gwaith, gan fod angen i ni sicrhau ein bod yn ymgysylltu â holl aelodau’r gymdeithas ac yn deall ac yn ymateb i’w profiadau byw.

Rwyf wedi meithrin cydweithrediadau gyda Race Council Cymru a Grangetown a Chyngor Ieuenctid a Mwslimiaid Cymru ac yn edrych i estyn allan i sefydliadau ieuenctid eraill ledled Cymru. Bydd rhai ohonoch wedi mynychu sesiwn cinio a dysgu craff gan Arweinydd ieuenctid y rhaglen iLEAD, a roddodd gipolwg ymarferol ar y ffydd, arferion a gwerthoedd Mwslimaidd a sut y gall cyflogwyr sicrhau ein lles yn y gweithle.

Ers fy amser yn yr Academi, rwyf wedi dod yn llawer mwy chwilfrydig am lawer o faterion yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd o fewn cymdeithas, ac rwy'n meddwl yn barhaus am ffyrdd o ddatrys problemau ac rwyf wedi cymhwyso'r sgil hwn i'm gwaith yn AaGIC.

Rwyf hefyd wedi dod yn fwy hyderus yn siarad â phobl o gefndiroedd proffesiynol gwahanol. Mae'r profiad hwn hefyd wedi fy ngalluogi i dyfu a datblygu fy ngwybodaeth a'm profiad o gwmpas y ddeddfwriaeth a deall sut y gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth a chael effaith gadarnhaol ar y cymunedau yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn eu gwasanaethu.

Mae’r rôl hon yn gyfle cyffrous i mi ac AaGIC greu newid cadarnhaol drwy lens y Ddeddf a sicrhau bod cyflogwyr heddiw ac yn y dyfodol yn parhau â’r gwaith i drawsnewid ein gwaith, ein cymdeithas a’n gwlad sydd o fudd i’n pobl a’n planed."

Rhagor o wybodaeth am rôl a gwaith Academi Cenedlaethau’r Dyfodol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Enwyd Ibby yn un o 100 o Ysgogwyr Newid yng Nghymru gan gyn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe.