Mae cleifion a fu farw a'u hanwyliaid yng Nghymru yn cael gofal mwy amserol a thosturiol diolch i hyfforddiant newydd a gyflwynwyd ledled Cymru.
Datblygwyd y fenter ar-lein gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn partneriaeth â byrddau iechyd GIG Cymru.
Yn flaenorol, pe bai claf yn marw yn y lleoliad Gofal Sylfaenol Brys (y tu allan i oriau), boed hynny'n ysbyty cymunedol, yn gartref gofal neu'n gartref ei hun, yn y rhan fwyaf o achosion byddai meddyg teulu neu ambiwlans yn cael ei alw allan i gadarnhau'r farwolaeth.
Bellach, bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n gweithio ym maes Gofal Sylfaenol Brys – gan gynnwys nyrsys, fferyllwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion ac eraill - sy'n cwblhau'r hyfforddiant newydd, yn gallu gwirio marwolaethau.
Hyd yma, mae dros 2,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus.
Mae agor y sgìl clinigol hwn i bob gweithiwr iechyd proffesiynol, yn enwedig ar adeg pan fo gwasanaethau o dan bwysau ychwanegol gan Covid-19, yn caniatáu i'r ymadawedig a'r teulu gael gofal mwy urddasol a thosturiol gan nad oes rhaid iddynt aros i feddyg teulu gyrraedd. Mae hefyd yn helpu llwyth gwaith y meddygon teulu ac yn eu galluogi i flaenoriaethu cleifion eraill a allai fod yn sâl iawn.
Dywedodd Angela Parry, Cyfarwyddwr Nyrsio Dros Dro AaGIC: "Mae cynllunio adnodd hyfforddi sy'n agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gwella ansawdd gwasanaethau drwy ddefnydd mwy priodol o'n clinigwyr, ac yn bwysicach na hynny mae'n helpu i ddarparu gofal mwy tosturiol i gleifion a'u teuluoedd."
Mae'r adnodd e-Ddysgu nid yn unig yn uwchsgilio'r clinigwyr sy'n ei gwblhau, ond hefyd yn eu galluogi i ddarparu parhad gofal tan ddiwedd bywydau eu cleifion; rhywbeth y mae llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn ei ystyried yn fraint.
Mae hefyd yn amhrisiadwy i deuluoedd gael y parhad gofal hwn gan glinigwyr y maent wedi datblygu perthynas â hwy i sicrhau eu bod yn cael cymorth personol, boed hynny'n cyfeirio at wasanaethau profedigaeth neu sensitifrwydd ynghylch anghenion diwylliannol neu grefyddol.
Mae'r adnodd yn adeiladu ar gymwyseddau a gwybodaeth ymarferol clinigwyr ac yn darparu lefel o safoni a chysondeb i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion ledled Cymru.
Dywedodd Helen Earland, Arweinydd Clinigol/Gweithredol gofal sylfaenol brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae cyflwyno'r hyfforddiant hwn wedi rhoi cyfleoedd i nyrsys a pharafeddygon ymestyn eu sgiliau clinigol gyda chymorth meddygon teulu profiadol sy'n gweithio yn y gwasanaeth.
"Mae Covid-19 wedi cynyddu'r angen am gynnydd yn nifer y staff i gefnogi'r maes gofal hwn, gan sicrhau urddas i'r ymadawedig a chymorth i'w hanwyliaid ar adeg mor emosiynol.
"Mae dilysu marwolaethau o fewn ein bwrdd iechyd a'n cymuned bellach yn ddull cydweithredol a gefnogir gan feddygon teulu, nyrsys ardal, nyrsys cartrefi gofal, parafeddygon, yn ogystal â staff Gofal Sylfaenol Brys'.
Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael gafael ar yr adnodd hyfforddi e-Ddysgu 'Dilysu Marwolaeth' yn hawdd drwy Gofnod Staff Electronig y GIG.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Mae gwasanaeth Gofal Sylfaenol Brys y GIG yn darparu gofal, gwybodaeth am ofal iechyd a chyngor i bobl ag anghenion gofal brys yng Nghymru yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau (yr oriau rhwng 6.30pm ar ddiwrnod yr wythnos ac 8am y bore canlynol ac ar benwythnosau a gwyliau banc.)
Mae adnodd hyfforddi ar-lein Dilysu Marwolaethau yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn Prudent Healthcare a Healthier Wales i ddarparu gofal iechyd effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf drwy arloesi, safoni a thrwy fuddsoddi yn sgiliau'r tîm Gofal Sylfaenol Brys cyfan.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru. Gan eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys: addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.