Neidio i'r prif gynnwy

GMC Arolwg hyfforddiant cenedlaethol - 2021

Gofynnir i oddeutu 100,000 o feddygon - hyfforddeion ac hyfforddwyr - gymryd rhan yn yr arolwg. Fe’i gynhelir bob blwyddyn a dyma’r mewnwelediad blynyddol mwyaf i addysg ac hyfforddiant yn y gweithle.

Mae cwestiynau’n cwmpasu meysydd gan gynnwys ansawdd yr hyfforddiant; llwythi gwaith a gorflino; yr amser sydd ar gael i ddarparu neu dderbyn hyfforddiant; mynediad at ystafelloedd egwyl a gofodau astudio, ac anfoesgarwch ac anghwrteisi yn y gweithle. Mae arolwg eleni hefyd yn cynnwys cwestiynau am effaith y pandemig.

Bydd y GMC yn gweithredu ar sail y canlyniadau yn ei waith gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i ddiogelu ansawdd yr hyfforddiant ac i annog adferiad hyfforddiant yn dilyn y pandemig. Mae hynny’n golygu bod amrywiaeth eang o ymatebion, ar draws arbenigeddau a rhanbarthau, yn hanfodol.

Cymerwch ran heddiw neu ewch at www.gmc-uk.org/nts i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae eich atebion yn sbarduno newid. 

Sut y cysylltir ag hyfforddeion?

Bydd angen i hyfforddeion fewngofnodi i’w cyfrif GMC Ar-lein:

http://www.gmc-uk.org/doctors/information_for_doctors/gmc_online.asp

Yna gellir cyrchu’r arolwg hyfforddeion trwy glicio ar y tab ‘Fy Arolygon’. Bydd tudalen gyntaf y ffurflen arolwg yn cael ei rhag-boblogi gyda manylion swydd yr hyfforddai ac ni fydd angen i'r hyfforddeion ond cadarnhau a ydynt yn gywir neu eu haddasu os oes angen.   


Pa hyfforddeion sy’n ofynnol iddynt gwblhau’r arolwg?

Mae'r arolwg yn berthnasol i hyfforddeion Sylfaen, Craidd ac Arbenigedd Uwch gan gynnwys cofrestryddion arbenigedd (SpR) ac hyfforddeion meddyg teulu. Yr unig eithriadau i hyn yw hyfforddeion SpR/ StR sydd wedi derbyn eu CCT ond sy’n aros am swydd ymgynghorol, deintyddion, hyfforddeion Iechyd Cyhoeddus anfeddygol, Meddygon nad ydynt mewn swyddi hyfforddi e.e. penodiad locwm ar gyfer gwasanaeth (LAS) a meddygon safon ymddiriedolaeth, hyfforddeion y Fenter Hyfforddiant Meddygol (MTI). Poblogaethau dan hyfforddiant na fydd yn cael eu harolygu ond y bydd gwybodaeth amdanynt yn cael ei chasglu yw hyfforddeion sydd ar gyfnod mamolaeth ar 20 Ebrill 2021 neu sy’n hyfforddeion oddi allan i’r rhaglen (OOPT) y tu allan i’r DU, ymchwil oddi allan i’r rhaglen (OOPR), profiad clinigol oddi allan i’r rhaglen (OOPE), neu seibiant gyrfa oddi allan i’r rhaglen.

Unwaith eto, mae cwblhau’r arolwg yn ofyniad gorfodol i hyfforddeion Sylfaen ac Arbenigedd yn unol â’r Canllaw Aur a Phorffor.  

SYLWCH: Bydd gofyn i hyfforddeion Oddi Allan i’r Rhaglen (yn y DU) gymryd rhan UNWAITH ETO yn yr arolwg eleni.

Eich barn

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wella ein cyfradd ymateb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch yr arolwg, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni. Dyma gyfle prin i ddylanwadu ar hyfforddiant trwy roi eich barn i’r GMC ar safon addysg ac hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Bydd ymatebion yn cael eu trin yn GYFRINACHOL ac yn cael eu datgan yn DDIENW.

Ar gyfer pwy mae’r arolwg hyfforddwyr yn berthnasol?

Goruchwylwyr Addysg: Mewn gofal eilaidd mae hyn yn cyfeirio at y rhai sydd wedi ymuno â’r Cytundeb Goruchwylio Addysg ac mewn gofal sylfaenol mae hyn yn cyfeirio at Hyfforddwyr Meddygon Teulu.

Goruchwylwyr Clinigol Enwedig: Y Goruchwylwyr Clinigol hynny sy’n cadw golwg ar waith hyfforddeion trwy gydol y swydd ac sy’n ymwneud â phenderfyniadau ar sail cynnydd.

Ble allaf i ddarganfod mwy?

I gael mwy o wybodaeth am yr Arolwg Hyfforddwyr ac Hyfforddeion, cysylltwch â ni drwy heiw.qa@wales.nhs.uk

AaGIC:  traineesurvey@wales.nhs.uk                  GMC: ntsenquiries@gmc-uk.org