Neidio i'r prif gynnwy

Gall fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru nawr ddefnyddio Hwb COVID Cymru i recriwtio myfyrwyr MPharm

Mae ‘Hwb COVID Cymru’, platfform recriwtio ar-lein newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, wedi’i lansio fel ateb recriwtio i gefnogi gwasanaethau sy’n ymateb i amgylchedd sy’n newid yn gyflym.

Yn benodol, mae myfyrwyr fferylliaeth ar ddiwedd eu hastudiaethau academaidd am y flwyddyn, ac mae rhai yn chwilio am gyfleoedd lleol i ddefnyddio eu sgiliau a chefnogi gwasanaethau fferylliaeth yn ystod y pandemig COVID-19.

Gall unrhyw fferyllfa gymunedol nawr hysbysebu cyfleoedd cyflogaeth dros dro i fyfyrwyr fferylliaeth yn ystod y pandemig ar Hwb COVID Cymru trwy gymryd y 3 cham syml isod:

1. Llenwch y ffurflen gais am swydd wag
2. Atodwch ddisgrifiad y swydd
3. E-bostiwch y dogfennau i support@covidhubwales.co.uk

Bydd eich hysbyseb yn ymddangos ar Hwb COVID Cymru.