Neidio i'r prif gynnwy

Fy mhrofiad interniaeth gan Saffron Williams  

Yn ystod haf 2024, cyflogodd AaGIC 14 o fyfyrwyr am interniaeth 8 wythnos. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael cipolwg ar sut beth yw gweithio i'r GIG yng Nghymru.

Yma gallwch ddarllen am brofiad interniaeth Saffron yn AaGIC.

Enw: Saffron Williams                                               

Astudio: Graddedig diweddar BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol                                           

Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd                                     

Interniaeth gyda: Nicola Lewis a Gail Harries-Huntley yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn y Tîm Gweithlu Nyrsio.

Fy mhrofiad yn gyffredinol

Mae fy mhrofiad yn AaGIC wedi bod yn wirioneddol anhygoel. Mae gweithio fel intern i AaGIC wedi rhoi’r cyfle i mi gael profiad o weithio mewn maes nad wyf erioed wedi’i brofi, gan roi’r cyfle i mi wneud cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol a chynnal ymchwil ar draws rhwydwaith GIG Cymru. Mae hyn wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o fframweithiau a strategaethau amrywiol sy’n hanfodol ar gyfer gofal iechyd, addysg a gwelliant effeithiol.

Rwyf wedi dysgu fy mod yn gallu cyfrannu i ddylanwadu ar ofal cleifion, hyd yn oed heb gysylltu â chleifion. Mae gweithio fel rhan o’r gweithlu nyrsio wir wedi fy ngalluogi i ennill sgiliau newydd wrth wneud cysylltiadau. Mae wedi rhoi hwb i fy hyder, a gwella fy sgiliau gweithio mewn tîm aml-ddisgyblaethol. Bu hyn yn fodd i helpu i wella’r llwybrau gofal iechyd a’r canlyniadau i gleifion.

Crynodeb o'r prosiect

Yn ystod fy amser yn AaGIC hyd yma, rwyf wedi bod yn gweithio ar adnodd digidol. Bydd hwn yn cynnwys y wybodaeth angenrheidiol am lwybrau dilyniant gyrfa yn y pedwar maes ymarfer ar gyfer nyrsio ôl-gofrestredig, gan gynnwys Llwybrau Clinigol, Addysgiadol, Ymchwil a Digidol. Rwyf hefyd wedi helpu i gael blogiau gan fyfyrwyr nyrsio a nyrsys profiadol, ar gyfer y platfform 'Tregyrfa'.

Mae'r prosiect hwn wedi fy ngalluogi i ddefnyddio ac ymestyn fy sgiliau gweithio mewn tîm, hyfedredd TG, sgiliau cyfathrebu, meddwl yn greadigol a sgiliau dylunio. Rwyf hefyd wedi gweithio ar fy ngallu rheoli amser, gan sicrhau bod pob tasg yn cael ei chyflawni hyd eithaf fy ngallu, ac yn ôl safon AaGIC. Rwyf wedi dysgu sut i weithio'n annibynnol ond yn deall pan fydd angen cymorth ac arweiniad arnaf ac i geisio’r gefnogaeth yna. Mae hyn wedi datblygu fy sgiliau arwain ymhellach wrth gwblhau fy mhrosiect.

Yn y dechrau

Yn ystod yr wythnos neu ddwy gyntaf ar ôl dechrau fy interniaeth, roedd hi'n gyffrous i mi rwydweithio â chymaint o bobl hynod ddiddorol, a gwnes yn siŵr fy mod yn gofyn digon o gwestiynau, gan fynd i mewn i'r prosiect mewn modd ffres, digynnwrf ac addas. Roeddwn i am wneud yn siŵr fy mod yn deall y nodau a’r gofynion yn llawn er mwyn cwblhau fy mhrosiect hyd eithaf fy ngallu. Roeddwn ychydig yn nerfus yn dod o gefndir gwyddoniaeth biofeddygol heb wybod llawer am nyrsio, ond mae wedi bod yn gyfle gwych i ddarganfod pa waith y mae AaGIC yn ei wneud o fewn gwahanol dimau'r sefydliad, ac am nyrsio.

Camau nesaf

Rwyf wedi bod yn llwyddiannus yn ymestyn fy interniaeth i brofiad blwyddyn o hyd, sy'n rhywbeth na allaf aros amdano mewn gwirionedd. Yn y dyfodol byddwn wrth fy modd yn gweithio mewn rôl sy'n ymwneud â’r claf yn uniongyrchol, a gwneud gwahaniaeth go iawn a helpu pobl mewn ffordd wahanol.

Y tu allan i'r gwaith a'r brifysgol

Y tu allan i'r gwaith, rydw i wir yn mwynhau cwrdd â fy ffrindiau a threulio amser gyda fy nheulu. Unrhyw esgus i fynd am goffi a sgwrs, dwi yno! Rwy'n treulio rhywfaint o'm hamser yn dysgu mwy am iechyd menywod yng Nghymru, a rhywbryd yn y dyfodol hoffwn fod yn eiriolwr ar gyfer gwella a chynyddu cydnabyddiaeth o'r gwahanol faterion meddygol y mae menywod yn eu hwynebu.