Neidio i'r prif gynnwy

Fy mhrofiad interniaeth gan Joseph Droogan

Helo bawb, croeso i fy mlog, myfyrdod ar sail fy interniaeth gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Nod y blog hwn yw cyfleu sut mae'r interniaeth hon wedi fy helpu i ddatblygu fel person ac i fireinio fy sgiliau meddal ar fy nhaith i ddod yn un o ddarpar arweinwyr y GIG. Mae’r blog hwn yn cwmpasu fy mhrofiad o fewn AaGIC ond yn bwysicach bydd, gyda lwc, yn rhoi ychydig funudau go ddifyr i chi. Mae cymryd rhan yn interniaeth gychwynnol AaGIC yn gyfle anferthol ac rydw i’n gobeithio ategu cymaint o werth ag y gallaf at y rhaglen i baratoi ar gyfer carfan y flwyddyn nesaf. 

Interniaeth? Pa Interniaeth?

Yn 2021, comisiynodd AaGIC interniaeth blwyddyn o hyd a fyddai'n caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu sgiliau allweddol, gan baratoi'r ffordd i ddatblygu’n arweinydd o fewn GIG Cymru. Byddaf yn cylchdroi drwy nifer o gyfarwyddiaethau, gan helpu i gyflawni prosiectau allweddol. Drwy'r profiad hwn rydw i’n gobeithio cael darlun clir o sut mae sefydliad GIG yn gweithredu, beth sy'n gweithio, beth sydd ddim, ac ati.

Fel un a aeth i'r brifysgol yn ddiweddarach mewn bywyd ac sydd ond yn awr yn dychwelyd i'r byd go iawn, rydw i am ddatblygu sgiliau busnes allweddol i adeiladu ar fy ngwybodaeth ddamcaniaethol. Mae'r interniaeth hon eisoes wedi fy ngalluogi i roi graen ar nifer o sgiliau hanfodol megis rhwydweithio, datrys problemau, dirprwyo a rheoli amser. Mae deall bod GIG Cymru wedi buddsoddi yn y cyfle hwn yn ysgogiad gwirioneddol i roi elw iddynt (rhagor cyn hir!).

[Ffaith Ddifyr #1: Cyn i Mark Labbett ddod yn un o’r helwyr ar ‘The Chase’ ITV, bu’n athro Lefel A Mathemateg arnaf i am sawl mis.]

Felly, pwy yw'r llanc golygus hwn na wyddoch undim amdano?

Fel llong heb lyw, roeddwn i'n llithro’n araf drwy fywyd yn ddi-gyfeiriad. Doedd gen i ddim nod, dim dyhead a dim cymhelliant i wneud unrhyw beth gyda fy mywyd. Roeddwn i’n symud o swydd i swydd o fewn y sector Logisteg heb unrhyw yriant mewn difrif ac yn gwybod bod yn rhaid i rywbeth newid. Yn 2019, fe benderfynais astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau ym mhrifysgol Caerdydd, gyda'r gobaith y byddai mwy o gyfleoedd yn cyflwyno eu hunain i mi. Fel yr oeddwn ar ddechrau fy nghwrs, cafodd fy Nhad ddiagnosis o Diwmor Ymennydd Gradd 4. Roedd hwn yn brofiad a newidiodd fywyd fy nheulu ac yn un â’m taflodd i sefyllfa o gyfrifoldeb nad oeddwn wedi paratoi ar ei chyfer o gwbl. Newidiodd pwy ydw i’n sylfaenol fel person. Fel y dywedodd yr athronydd Tsieineaidd Confucius unwaith, “Mae gennym ddau fywyd, a dechreuad yr ail yw’r sylweddoliad mai ond un sydd gennym.”

Ar ôl i'm Tad farw ym mis Ebrill 2020, gwyddwn fy mod eisiau dychwelyd i gwblhau fy Meistr. Cefais swydd ran-amser fel cynorthwyydd domestig yn fy ysbyty leol, St Woolos, Aneurin Bevan a thrwy'r profiad hwn yr ystyriais i yrfa o fewn y GIG. Drwy Borth Gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd y des i ar draws cyfle interniaeth chwe wythnos gydag AaGIC. Fe wnes i ymgeisio, cefais fy nghyfweld ac mi wnes i fachu ar y cyfle. Roedd yn gam cyntaf bach ond hynod arwyddocaol ar y daith newydd hon.

Ymlaen yn gyflym i 2022 ac rydw i’n mwynhau pob eiliad o'r bennod newydd hon. Cwblheais fy Ngradd Meistr a byddaf yn graddio ym mis Gorffennaf. Yn ddiweddar, mi wnes i gymryd rhan ym Marathon Manceinion a chodi dros £6700 ar gyfer The Brain Tumour Charity. Yn fy amser hamdden rydw i’n mwynhau Krav Maga, gwrando ar bodlediadau a choginio risotos o bryd i’w gilydd.

[Ffaith Ddifyr #2: Yn ystod uwchgynhadledd NATO 2014, ymwelodd yr Arlywydd Obama â’m Ysgol Gynradd gynt. Cyfle gwych i weld arweinydd yr Unol Daleithiau’n gyrru heibio i ’nghartref... Ble oeddwn i yn ystod y cyfle unwaith mewn oes hwn? Yn cerdded o amgylch ffatri Heineken yn Amsterdam.]

Yr hyn rydw i’n ei weithio arno ar hyn o bryd

Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio o fewn y Gyfarwyddiaeth Nyrsio, yn  helpu’n benodol y timau rhaglenni Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Gofal Iechyd i ddatblygu eu pecynnau cymorth cyfathrebu. Mae wedi bod yn ffordd wych i mi wella fy sgiliau TG ac mae wedi fy herio i fod yn greadigol, rhywbeth yr ydw i wedi cael trafferth ag o ar y cyfan yn y gorffennol. Rydw i wedi cymryd cyfrifoldeb llawn dros greu'r adnoddau ‘hawdd eu deall’ ar gyfer y ddwy raglen.

(I gael gwybod rhagor am y rhaglenni AHP ac HCS yr ydw i wedi bod yn eu cefnogi – cliciwch ar y dolenni a ddarperir).

Ochr yn ochr â'm gwaith o fewn y Gyfarwyddiaeth Nyrsio, rydw i hefyd wedi bod yn manteisio ar bob cyfle sydd gan yr interniaeth i'w cynnig i mi. Mae un neu ddau o uchafbwyntiau’n cynnwys y gyfres ‘Cwrdd â'r Arweinwyr’ a mynychu dosbarth meistr arweinyddiaeth gyda Rebecca Richmond Porth Arweinyddiaeth Gwella. Mae cael y cyfle i amgylchynu fy hun gyda meddylwyr strategol ac arweinwyr angerddol ym maes gofal iechyd wedi bod yn hynod o frawychus ond yn hynod o werthfawr. Yn ychwanegol at hyn, mae fy aelodaeth gyda'r Sefydliad Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi rhoi cyfleoedd i mi ddilyn cyrsiau byr mewn arweinyddiaeth.

[Ffaith Ddifyr #3: Nid yn unig rydw i wedi ennill her bwyta log siocled Nadolig, rydw i hefyd wedi ennill chwe gêm cefngefn o Connect4.]

Beth nesaf?

O fod wedi gweithio gyda'r tîm Cynllunio a Gwasanaethau Corfforaethol yn ystod Interniaeth yr Haf, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â nhw eto i helpu gyda'r cynllun datgarboneiddio a bioamrywiaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gysylltu â mi, gallwch anfon e-bost ataf: Joseph.Droogan@Wales.nhs.uk

Gallwch hefyd ddod o hyd i mi ar Linkedin.

I ganfod rhagor ynglŷn â’n Rhaglen Interniaeth, ymwelwch â’r dudalen ganlynol:

Internship Programme - Gwella HEIW Leadership Portal for Wales