Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Prentisiaethau Cymorth Mamolaeth a Phediatrig

Fel Partner Datblygu Llywodraeth Cymru ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Iechyd, mae AaGIC yn cynnal adolygiad o'r Fframwaith Prentisiaethau Cymorth Mamolaeth a Phediatrig. 

Sefydlwyd Grŵp Llywio i ddatblygu'r gwaith hwn gyda chynrychiolaeth cyflogwyr o bob rhan o GIG Cymru.  Mae'r Fframwaith a adolygwyd bellach yn barod am gyfnod ymgynghori o 4 wythnos cyn i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo. 

Byddem yn falch iawn pe gallech gymryd ychydig funudau o'ch amser ac ateb rhai cwestiynau am gynnwys y fframwaith i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion gwasanaethau cymorth gofal iechyd. 

Yn ogystal â'r fframwaith drafft ar gyfer adolygu, bydd dogfen gymharu'r Pwyllgor Datblygu Cynaliadwy yn darparu gwybodaeth am ofynion lefel gwahanol y Sgil Hanfodol Llythrennedd Digidol.

Mae Hysbysiad Ymgynghoriadau a Phreifatrwydd HEIW yn rhoi gwybodaeth ar sut rydym yn rheoli unrhyw wybodaeth a gasglwnBydd yr arolwg yn cau ar 9 Awst 2021.