Neidio i'r prif gynnwy

Fe fuon ni'n cefnogi Rheng Flaen y GIG yn ystod yr ymdrech frechu

Gwirfoddolodd Emma Garland, ein Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth, i rannu ei phrofiad gweinyddol yng nghanolfan frechu torfol BIPAB yn ddiweddar. 

Fel rhan o ymdrech wirfoddol ledled Cymru er budd y rhaglen frechu, bu cydweithwyr o AaGIC yn rhoi o’u hamser i gyfrannu eu sgiliau er mwyn helpu staff y GIG mewn gwahanol ganolfannau brechu yng Nghymru.  Mae Emma yn rhannu ei phrofiad o lygad y ffynnon; 

Y ganolfan hamdden leol yw fy nghanolfan frechu agosaf. Anhygoel oedd gweld y lle sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer chwaraeon, gweithgareddau hamdden a chyngherddau cerddorol yn newid i fod yn safle ffantastig lle mae cymaint o frechiadau wedi'u rhoi. Teimlad da, yn ystod cyfnod mor anodd, oedd bod yn dyst i wasanaethau iechyd a lles yn cael eu darparu a lleoliad i gyflwyno’r rhaglen frechu’n cael ei gynnig yng nghalon y gymuned. 

Braf oedd gallu helpu gan fod y rhaglen frechu wedi bod yn mynd rhagddi ers dros flwyddyn bellach. Roedd yn teimlo’n gywir, ac yn rhywbeth a wnâi wahaniaeth, i staff AaGIC fod yn cynorthwyo yn y rheng flaen pan oedd gwir angen. Mae'r rhaglen frechu wedi bod yn ymrwymiad hir i gydweithwyr mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’n benodol. Mae’n ymrwymiad sydd wedi achub llawer iawn o fywydau ac wedi rhoi’r cyfle i ni brofi rhywfaint o normalrwydd—elfen sydd wedi bod ar goll yn ein bywydau’n ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Mi wnes i wirfoddoli mewn rôl weinyddol. Roedd pawb yn y ganolfan yn groesawgar iawn ac mi ges i fy hyfforddi’n gyflym o ran sut i ddefnyddio'r system, a sut i fewngofnodi pobl fel bod modd eu cyfeirio at y brechwyr. Fel gweithiwr proffesiynol Llywodraethu Gwybodaeth, rhannu cyngor ynglŷn â systemau fydda’ i fel arfer, ond roedd yn braf cael defnyddio un, am newid! Profiad newydd oedd i mi fod mewn rôl GIG sy'n wynebu'r cyhoedd, ond roeddwn i mewn sgrybs mewn dim o dro ac yn barod amdani! Roedd yn amlwg bod rhai pobl yn nerfus, ond roedd pawb yn ddiolchgar ac yn gwrtais hefo’r staff ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn mynd a dod ar wib. Roedd yn arbennig o gadarnhaol gweld rhai pobl ifanc yn eu harddegau’n frwdfrydig ynglŷn â chael y brechiad, er mwyn lleihau'r risg iddyn nhw’u hunain ac eraill. Hyd yn oed ar yr achlysuron hynny lle'r oedd ciwiau hir, roedd y broses wedi’i threfnu mor dda nes bod popeth yn dal i fynd fel cloc. 

Rydw i’n ddiolchgar iawn am y profiad. Mi ddysgais i lawer ac rydw i’n falch o fod wedi cael gwneud y cyfraniad lleiaf! 

Ledled y GIG mae gwirfoddolwyr di-ri sydd oll yn ymroi i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Rydyn ni’n ddiolchgar i bob un ohonyn nhw am eu hymdrechion ysbrydoledig. 

Os hoffech chi wirfoddoli o fewn GIG Cymru, gallwch wneud hynny drwy gysylltu yma; https://www.wales.nhs.uk/cym 

Y GIG yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru gyda thros 90,000 o staff. Mae dros 350 o gyfleoedd gyrfaol yn amrywio o fferyllwyr i barafeddygon, gynecolegwyr i beirianwyr clinigol, radiograffyddion i fydwragedd a gwasanaethau cymorth hanfodol fel rolau gweinyddol a chlercol, ystadau, rheolaeth gyffredinol/ariannol, arlwyo, domestig neu hybu iechyd. 

Gallwch weld rhagor yma: https://aagic.gig.cymru/gyrfaoedd/gweithio-yn-gig-cymru/