Neidio i'r prif gynnwy

Estyniad i ail ddyletswydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Young child in a hospital bed

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2020, mae ail ddyletswydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 heddiw (1 Hydref 2021) wedi'i hymestyn i wardiau cleifion mewnol pediatrig.

Mae ail ddyletswydd y Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar fyrddau iechyd i gyfrifo, adolygu, cynnal ac adrodd ar lefelau staff nyrsio mewn ardaloedd meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion o fis Ebrill 2018 ymlaen ac ardaloedd cleifion mewnol pediatrig o 1 Hydref 2021.

Mae hon yn garreg filltir gyffrous i GIG Cymru a Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan gan fod gwaith helaeth wedi'i wneud i ddatblygu a phrofi offeryn cynllunio gweithlu sy'n seiliedig ar dystiolaeth a dyfeisio cyfres o fecanweithiau cefnogol ac offer cenedlaethol i alluogi byrddau iechyd i fodloni gofynion y Ddeddf.

Fel Arweinydd y Prosiect Pediatrig, mae Dawn Parry wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r ffrwd waith bediatrig, sy'n cynnwys uwch gynrychiolwyr nyrsio o fyrddau iechyd ledled Cymru.

Wrth siarad heddiw, dywedodd "Rwyf mor falch o'r gwaith rydym wedi'i wneud, ar y cyd â nyrsys pediatrig rheng flaen, i'n cyrraedd i'r lle yr ydym heddiw.

"Byddyr estyniad hwn yn eu grymuso gan roi'r wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynto dan ddeddfwriaeth, gan sicrhau bod ganddynt amser i ddarparu gofal a diwallu anghenion unigol ein plant/pobl ifanc".

Mae Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn rhan o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), gan gefnogi GIG Cymru i fodloni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 a dilyn dull 'Unwaith i Gymru'.

Gallwch glywed mwy gan Dawn am ei gwaith ar ei blog:

I gael rhagor o wybodaeth am y ffrwd waith bediatrig, ewch i wefan AaGIC.