Neidio i'r prif gynnwy

Ein Liam: Stori Nyrsio

Simon Cassidy (RN, PhD, BSc (Hons), Dip Prof Prac, PGCE; SFHEA) - Rheolwr Rhaglen Addysg, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Simon yw Rheolwr Rhaglen Addysg Cymru, ac mae'n arwain y broses o weithredu Safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer addysg. Mae wedi gweithio yn y GIG fel nyrs gofrestredig am dros ddeng mlynedd ar hugain mewn amrywiaeth o leoliadau a rolau ymarfer clinigol, gan gynnwys fel nyrs, rheolwr, addysgwr ymarfer ac ymchwilydd. Ysbrydolwyd ei feddyliau gan "Flwyddyn WHO y nyrs a'r fydwraig 2020' yn annog myfyrio ar ddigwyddiadau, profiadau a phobl y mae wedi cael ei ddylanwadu arnynt mewn gyrfa ddatblygol.


‘Tanc top’ ein Liam...

Mae fy nghefnder Liam bob amser yn gwrido pan fyddwn yn ymgynnull fel teulu yn enwedig pan fydd fy nhad yn rhoi hen luniau i fyny ar y sgrin. Y rheswm fod Liam yn gwrido yw mai ef yw'r ieuengaf o linell hir, diddiwedd o gefndryd a brodyr a chwiorydd, ac mae'r ffaith honno bob amser yn arwain at ail-adrodd chweldau chwarae castiau yn ein plentyndod. Ond na, mae anesmwythder Liam yn fwy i wneud a'r ffaith mai ef oedd y gwisgwr olaf o ‘danc top’ streipïog (hynny yw, siwmper heb freichiau i wylwyr iau), sydd wedi ei drosglwyddo'n ddeddfodol drwy'r llinell waed.

Mae ymddangosiad sgrin Liam yn cael ei fagu â pharch. Dyma Liam, yn ei streipiau coch, oren a brown llorweddol, llinell gwddf siâp V yn darparu sylwadau eironig ar etifeddiaeth mor anogoneddus. Gyda dim byd oddi tano heblaw fest, mae breichiau moel Liam yn ymwthio allan o'r tu mewn ochr yn ochor a gwên cyfeiliornus. Mae derbyniad aflafar i'w ymddangosiad cyntaf, tra bod Liam wedi derbyn yr anochel, yn barod ag atebion chwim i unrhyw beth a ddaw ei ffordd.

Yr hyn sy'n amlwg bob amser am yr eiliadau hyn, fodd bynnag, yw bod rhywbeth gwerthfawr o dan y cellwair annwyl. Rydym yn mwynhau'r dynameg, yn dathlu ein traddodiadau, yn coleddu ein cysylltiadau ac rydym yn trin y ‘tanc top’ fel aelod o'r teulu estynedig. Wedi ei aileni ym mhob cenhedlaeth o'r teulu, mae ‘tanc top’ ein Liam wedi dod yn symbol o dreigl amser, pob un yn gwehydd ceidwad o atgofion gwerthfawr. Mae cyfres o atgyweiriadau a thrwsiadau yn ychwanegu at arwyddocâd y dilledyn.

Daliwch y syniadau hyn am eiliad os wnewch chi...

 Fel ‘tanc top’ ein Liam, mae fy hunaniaeth nyrsio hefyd yn cael ei farcio gan dreigl amser, clytwaith o wybodaeth caffaeledig, rhwydweithiau, darnau o wybodaeth, doethinebau a tystiolaeth ystyriol. Pe bawn i'n gallu desbonio brethyn fy ngyrfa, byddech chi'n gweld y llawenydd o fod yn ofalgar ar wahân i'r rhwystredigaeth o golli, rhyfeddodau cyfeillgarwch wrth ochr unigrwydd o godi pryderon, harddwch dysgu gydol oes drws nesaf at sylweddoli cyn lleied yr wyf yn gwybod.

Dwi'n gweld sut dwi wedi cael fy mhlethu i gymhlethdodau patrymog bywyd dynol ac rwy'n ddiolchgar. Yn slic ac yn wych ar adegau, yn ddigymell ac yn gwneud y tro ar adegau eraill, mae aelodaeth o'r proffesiwn nyrsio wedi caniatau cyfle i ryfeddu, edmygu a chwestiynu.

Nyrsio wedyn, nyrsio nawr a nyrsio yn y dyfodol, mae'r streipiau o ddisgwyliad proffesiynol yn parhau'n ddi-baid. Blynyddoedd maith o addysg yn rhoi amnaid i'r gorffennol, gosod gwaddol ar gyfer newid, yn gyson yn dilladu brig y drwydded. Mae modelau rôl, traddodiadau, rheoleiddio a chyfreithlondeb yn nodi ystumiad a gwefr hanes nyrsio sy'n ehangu'n barhaus.

Trefol, gwledig, seilwaith neu ddim, fel nyrsys rydym yn eu goruchwylio, rydym yn asesu, yn myfyrio, rydym yn herio, ac rydym yn edrych ar gynllunio olyniaeth i sicrhau cludiant hanfodol o’n gwerthoedd ymhlyg. Boed yn estyn allan, yn sefydlu neu'n briffio i lawr, yr ydym yn llunio'r foment ac yn edrych at bragmatiaeth mewn adfyd.

Mae fy mrethyn nyrsio personol yn un diymhongar, ond rwy'n crosawy’r teilwra proffesiynol yn y foment o roi sylw i wendidau a dyheadau pobl. Rwy'n gafael yn y cyfle dysgu nesaf, yn dathlu amrywiaeth, yn gwau methiant fel rhan o lwyddiant, a chymaint ag y mae'n bosibl, yn gwnïo teithiau o wydnwch, ymladd ac adfer yn dapestri o gof personol.

Fel ‘tanc top’ ein Liam, fel rhan o dreftadaeth nyrsio, yr wyf yn gwerthfawrogi pob pwyth o drwsio a gaiff ei blethu i mewn i wead profiad dynol.