Neidio i'r prif gynnwy

Eich cyfle i lunio'r ffordd y mae dirprwyo yn cael ei ddefnyddio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Wrth i'r ffordd rydym yn gweithio yn y GIG newid, mae dirprwyo yn dod yn fwyfwy pwysig er mwyn sicrhau y defnyddir adnoddau cyfyngedig yn briodol, cynaliadwyedd gwasanaethau yn y dyfodol, datblygu staff ar bob lefel ac annibyniaeth ymarfer.

Dyma'ch cyfle i ddylanwadu ar y broses o roi Canllawiau Dirprwyo Cymru gyfan a adolygwyd ar waith. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru, mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi adolygu Canllawiau Dirprwyo Cymru gyfan (2010). Fel rhan o'r gwaith hoffem gael eich barn ar yr hyn rydych chi'n ei deimlo yw'r rhwystrau a'r galluogwyr ar gyfer dirprwyo effeithiol, a chaiff hyn ei wneud drwy arolwg ar-lein.

Mae'r arolwg nawr ar agor tan 24 Chwefror 2020 i bob aelod o staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu defnyddio i helpu Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i weithredu'r canllawiau diwygiedig. Byddant hefyd yn ffurfio sail i adroddiad ar gyfer Cyfarwyddwyr Gweithredol.

A fyddech cystal â manteisio ar y cyfle hwn i lunio'r ffordd y defnyddir dirprwyo yn eich sefydliad.

Cwblhewch yr arolwg yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.