Neidio i'r prif gynnwy

Dyma Gethin Harries ein Harweinydd Newydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ar gyfer 'Adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn'

Ar hyn o bryd rwy'n byw gyda fy nheulu yn Abertawe, ond yn Hwlffordd, Sir Benfro, mae fy ngwreiddiau.Ymgymhwysais fel Gwyddonydd Anatomegol, ac yna fel Ffisiotherapydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi magu diddordeb brwd mewn poen a blinder parhaus, yn ogystal ag adsefydlu galwedigaethol.

Mae wedi bod yn fraint gweithio yn Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru fel Rheolwr Iechyd a Lles Galwedigaethol, cyn ac yn ystod y pandemig. Gwneuthum hyn ar yr un pryd â fy rôl yn datblygu gwasanaethau poen a blinder ym Mwrdd Iechyd Addysgu Gogledd Powys. Ochr yn ochr â gwasanaethau poen a blinder deuthum wedyn yn arweinydd tîm clinigol y gwasanaeth cyfan, oedd yn cynnwys cefnogi datblygiad rhaglenni digidol, Cofid hir a gwasanaethau rheoli pwysau. Yma bûm yn gweithio gyda thîm amlddisgyblaethol deinamig oedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl i fyw'n dda â chyflyrau hirdymor.

 Roedd gweithio mewn tîm Cymru gyfan yn ystod fy amser yn Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru yn ogystal â gweithio ar draws tri Bwrdd Iechyd arall yn gwneud symud i AaGIC yn teimlo fel dilyniant naturiol, yn enwedig gyda ffocws y rôl ar yr unigolyn.

 Fel rôl newydd o fewn sefydliad sydd newydd ei ffurfio, mae fy nghynllun gwaith yn datblygu. Rwy’n falch i fod yn cefnogi gweithwyr Proffesiynau Perthynol Iechyd cyntaf i ymuno fel cymrodyr arweinyddol a helpu i gefnogi eu gwaith yn adolygu a diweddaru’r fframwaith a’r canllawiau adsefydlu. Mae wedi bod yn wych i fod yn rhan o’r gynhadledd 13 diwrnod  ‘Amseroedd Rhyfeddol,Ymarfer Rhyfeddol’ diweddar, a roddodd gyfle perffaith arall i fawrygu cynnig amrywiol  y mae’r Proffesiynau Iechyd Perthynol yn ei roi i ganlyniadau’n seiliedig ar werth.

 Fel y soniwyd eisoes mewn blog gan Wendy Wilkinson, Pennaeth presennol ar Drawsnewid Proffesiynau Perthynol  Iechyd, y cyngor i holl gydweithwyr yw,rhannwch eich syniad os oes gennych un am sut i wella gweithlu’r dyfodol! Rydym yn gryfach gyda’n gilydd, a gyda’n gilydd mae gennym y potensial i drawsnewid dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

cysylltwch â HEIW.Alliedhealthprofessions@wales.nhs.uk