Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiadau i addysg a hyfforddiant fferyllwyr - buddion i fferyllwyr y dyfodol a'n cleifion

Bydd myfyrwyr sy'n hyfforddi i fod yn fferyllwyr ym mhrifysgolion yng Nghymru yn elwa o dreulio amser ychwanegol ar leoliad clinigol fel rhan o’u gradd.

Bydd y cynlluniau newydd, a ddatblygwyd rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac ysgolion fferylliaeth ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, yn golygu y caiff pob myfyriwr fferyllol israddedig ddiwrnodau ychwanegol ar leoliad dan oruchwyliaeth o fewn fferyllfeydd ysbytai, cymunedol a phractisau meddygon teulu, ar draws eu rhaglen israddedig pedair blynedd.

Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, wedi cytuno ar y datblygiad, a'i nod yw sicrhau y bydd gan bob fferyllydd yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â rolau clinigol newydd fel arbenigwyr meddyginiaethau.

O'r flwyddyn academaidd nesaf, bydd ysgolion fferylliaeth Cymru yn cael mynediad at gyllid i gefnogi'r oruchwyliaeth addysgol hon. Bydd cyllid ychwanegol yn cael ei alinio i'r tariff meddygol ar gyfer hyfforddi meddygon a deintyddion y GIG. Bydd cyllid ar gael hefyd i helpu i dalu costau teithio a llety myfyrwyr pan fyddant ar leoliadau a fydd yn cael eu darparu ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol, a fydd yn codi i dros £2.7 miliwn y flwyddyn erbyn mis Ebrill 2025, yn sicrhau y gall prifysgolion Cymru fodloni safonau newydd ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol i fferyllwyr a osodwyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol y llynedd.  Yn bwysig, mae'n golygu y bydd gan fferyllwyr sydd newydd gofrestru y sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion cleifion a'r GIG y dyfodol, gan gynnwys y gallu i ragnodi meddyginiaethau o ddechrau eu gyrfa. Bydd fferyllwyr sy'n gallu rhagnodi yn cynyddu gwasanaethau a'r gofal y gall cleifion ei dderbyn yn eu cymuned leol.

Dywedodd y Prif Swyddog Fferyllol Andrew Evans:

“Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau, ac maent yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r GIG yn ein hysbytai, cymuned a phractisau meddygon teulu. Mae Cymru ar flaen y gad o ran creu cyfleoedd newydd a chyffrous i fferyllwyr ddefnyddio eu sgiliau clinigol. Bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i gyflawni ein dyheadau ar gyfer y proffesiwn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion.

“Bydd y newidiadau hyn yn ategu at y rhaglen sylfaen blaenllaw GIG Cymru ac yn gwneud y rhaglenni israddedig a gynigir gan ysgolion fferylliaeth prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, hyd yn oed yn fwy deniadol i ddarpar fyfyrwyr.

Mae'r buddsoddiad hwn yn atgyfnerthu bod Cymru yn lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw i weithwyr fferyllol proffesiynol.”

Gan groesawu'r penderfyniad, dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Mae'r penderfyniad allweddol hwn gan y Gweinidog i gefnogi ein cynlluniau yn newyddion gwych i fyfyrwyr fferyllol heddiw a’r dyfodol yng Nghymru. Bydd cynyddu nifer ac ansawdd lleoliadau clinigol yn sicrhau ein bod yn bodloni'r safonau addysg a hyfforddiant cychwynnol diwygiedig ar gyfer fferyllwyr a'n bod yn cynhyrchu fferyllwyr sydd â sgiliau clinigol uwch a'r gallu i ragnodi meddyginiaethau'n annibynnol ar ôl pum mlynedd o hyfforddiant yn hytrach na'r wyth mlynedd y mae'n ei gymryd ar hyn o bryd.

Yn hanesyddol, ystyriwyd cyrsiau fferyllol fel graddau gwyddoniaeth yn hytrach nag iechyd sy'n golygu nad ydynt yn denu cyllid ychwanegol ar gyfer lleoliadau clinigol.  Mae'r newidiadau hyn yn sicrhau bod hyfforddiant fferyllwyr yn unol â meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.”

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ac addysg a hyfforddiant fferylliaeth cyn cofrestru ac ôl-gofrestru ar gyfer gweithlu fferylliaeth Cymru, yma;  Fferyllfa - AaGIC (gig.cymru)