Neidio i'r prif gynnwy

Linor Jones - Gwyddonydd Clinigol, Ysbyty Glan Clwyd

Fy enw i yw Linor ac rwy'n Wyddonydd Clinigol mewn Awdioleg. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Arweinydd Clinigol mewn Mewnblaniadau Cochlear Oedolion yng Nghanolfan Mewnblaniad Clywedol Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.

Astudiais Fioleg ar gyfer fy ngradd israddedig yng Nghaerdydd ac er nad oedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud ar gyfer gyrfa ar y pryd hynny, yr un peth roeddwn i'n ei wybod oedd fy mod i eisiau gweithio gyda phobl mewn rôl a oedd yn cynnwys gwyddoniaeth. Dim ond yn ystod digwyddiad gyrfaoedd yn ystod fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol y cefais fy nghyflwyno i waith Gwyddonwyr Gofal Iechyd ac ar unwaith gafaelodd disgyblaeth Awdioleg fy sylw. Ymwelais ag ychydig o adrannau i gael ymdeimlad o'r rôl a gwneud cais i wneud yr MSc Awdioleg ym Mhrifysgol Manceinion. Ar yr un pryd gwnes gais am y swydd hyfforddi Gwyddonydd Clinigol mewn yma yn Ysbyty Glan Clwyd ond yn anffodus nid oeddwn yn llwyddiannus, felly cwblheais fy ngradd Meistr a chwblhau’r hyfforddiant clinigol i ddod yn Awdiolegydd. Yna bûm yn ddigon ffodus, am y trydydd tro, o gael swydd hyfforddi Gwyddonydd Clinigol tra’n gweithio yn y swydd. Cwblheais yr hyfforddiant hwn ym mhob agwedd ar Awdioleg ac yna cofrestrais yn llwyddiannus fel Gwyddonydd Clinigol yn 2014. O hynny ymlaen, rydw i wedi bod yn ffodus fy mod i wedi cael cyfleoedd hyfforddi pellach gwych yn y gwasanaeth Awdioleg ac wedi cyrraedd lle rydw i heddiw, mewn swydd rydw i'n ei charu, yn arwain tîm o wyddonwyr sy'n gweithio gyda mewnblaniadau cochlear.

Cefais fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth gan fy athro Bioleg ysgol uwchradd. Hi oedd yr athrawes orau a gefais yn ystod fy mlynyddoedd ysgol ac fe wnaeth hi fy ngwthio i ddilyn fy niddordeb mewn gwyddoniaeth. Nid wyf yn credu y byddwn wedi gwneud cais am radd mewn Bioleg oni bai amdani hi.

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gwyddoniaeth byddwn yn eich annog i wthio ymlaen a dilyn eich dymuniad. Mae cymaint o yrfaoedd amrywiol yn gysylltiedig â gwyddoniaeth ac mae'r amrywiaeth helaeth o wahanol yrfaoedd y mae fy nghydweithwyr myfyrwyr Bioleg wedi'u dilyn i gyd yn hynod ddiddorol a gwerth chweil. I mi, rydw i wir yn mwynhau cymhwyso gwyddoniaeth yn fy rôl bob dydd i helpu cleifion i gyflawni eu hanghenion a'u cefnogi ar hyd y ffordd. Mae fy swydd yn werth chweil gan ein bod yn gallu gwella ansawdd bywyd rhywun ac hefyd yn gyffrous o ystyried yr holl ddatblygiadau technoleg sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Byddwn yn argymell yn fawr yrfa mewn gwyddoniaeth i unrhyw fenyw!