Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol

Heddiw, rydym yn dod at ein gilydd fel cenedl i fyfyrio a chofio'r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau i'r pandemig neu sy'n galaru am farwolaeth rhywun annwyl - mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda chi.

Byddwn yn arsylwi munud o dawelwch am hanner dydd ddydd Mercher 23 Mawrth.

Dywedodd ein Cadeirydd, Dr Chris Jones, "Heddiw, ar ddiwrnod o fyfyrdod cenedlaethol, dyma gyfle i ni gyd oedi am funud a myfyrio’n dawel – gan gofio’r hyn rydyn ni wedi’i wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cofiwn, er tristwch, am y rhai a fu farw’n sgil y pandemig ynghyd â’u hanwyliaid a'u ffrindiau. Cofiwn hefyd am gydweithwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi a thrin y rhai a aeth yn wael.

"Mae ein haberthau a'n hymdrech bersonol ynghyd â'r datblygiadau gwyddonol wedi’n tywys at fan ble gallwn edrych tuag at normalrwydd newydd. O ystyried popeth sydd ar droed yn y byd ar hyn o bryd, mae heddiw’n gyfle i gydnabod gwerth cefnogi ein gilydd a thrysori gweithredoedd caredig."