Mae'r Rhaglen Gadw Genedlaethol wedi parhau i ddatblygu yn gyflym ers ei lansio ym mis Ebrill 2024, gyda llawer o ddatblygiadau'n cael eu gwireddu.
Mae'r gymuned ymarfer cadw genedlaethol wedi derbyn lefelau uchel o ymgysylltu a chyfranogiad. Mae wedi bod yn hynod fuddiol o ran cefnogi cydweithio, dysgu ac arloesi i wella cadw staff ar draws y system yng Nghymru. Ym mis Medi 2024 cafodd y Gymuned Ymarfer gyfle i ymgymryd â'r wobr Gwella Ymarfer a gyflwynwyd gan dîm Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd (QIST) Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i sicrhau bod pob arweinydd yn meddu ar y wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd Gwella Ansawdd sydd eu hangen i gefnogi cydweithwyr i wella ansawdd cadw.
Mae'r Hyb Cadw Cenedlaethol digidol Perthyn, Ffynnu, Aros yn parhau i dyfu i sicrhau bod adnoddau cadw allweddol, offer, data ac astudiaethau achos ar gael i gynorthwyo staff ledled GIG Cymru i gael effaith gadarnhaol ar gadw o fewn eu hamgylcheddau gwaith unigol. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd mewn prosiectau ac ymyriadau gwella ansawdd cadw wedi'u targedu ledled Cymru, gyda dros 45 prosiect ar waith i gynyddu cadw staff a chreu amgylcheddau gwaith lle mae cydweithwyr yn perthyn, yn ffynnu ac yn aros.
Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae'r rhaglen wedi rhoi ffocws sylweddol ar gynorthwyo sefydliadau i nodi eu sefyllfa llinell sylfaen cadw a mesur effaith ymyriadau gwella a gyflwynwyd. Er mwyn cyflawni hyn, datblygwyd amrywiaeth o adnoddau ac offer newydd. Mae'r rhain yn cynnwys gwerthuso, adnewyddu a symleiddio'r offeryn hunanasesu amlbroffesiynol gyda dangosfwrdd adrodd cysylltiedig, a datblygu dangosfwrdd metrig allweddol cadw, y mae pob un ohonynt yn cael eu lansio yn yn yr Hyb Cadw Cenedlaethol yn ystod mis Rhagfyr 2024.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gymryd rhan mewn gwella cadw gyda'ch gilydd, cysylltwch â Zoe.gibson@wales.nhs.uk Arweinydd Cadw Cenedlaethol neu Eich Arweinydd Cadw Lleol.