Neidio i'r prif gynnwy

Deintyddion Cymru yn ymgymryd â rolau addysgol i wella gofal yn eu practisiau

[Grŵp o 10 deintydd ar gwrs hyfforddiant gwneud gwaith ataliol gyda'u hyfforddwyr o AaGIC, Adam Porter a Jane Norgate.]

 

Mae menter newydd wedi gweld 58 o ddeintyddion ledled Cymru yn ymgymryd â rolau mewn addysg a hyfforddiant i wella gwasanaethau cleifion yn eu practisau, ers iddo gael eu lansio chwe mis yn ôl.

Mae'r deintyddion sy'n mynychu cwrs hyfforddi Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) Gwneud Gwaith Atal yn Ymarferol (MPWiP) wedi'u paratoi ar sut i ddysgu i nyrsys deintyddol ar sut i roi cyngor gofal ataliol i gleifion a defnyddio farnais fflworid.

Dywedodd Kirstie Moons, Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Cynllunio a Datblygu Gweithlu'r Tîm Deintyddol yn AaGIC: "Mae MPWiP yn rhoi cyfle unigryw i dimau deintyddol ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion, gan ganolbwyntio ar atal fel y nodir yng nghynllun hirdymor Llywodraeth Cymru, ‘Cymru Iachach-ymateb y Gwasanaethau Genol a Deintyddol’.  

“Mae'r cwrs yn galluogi deintyddion i fod yn hyfforddwyr addysgol, gan hyfforddi eu nyrsys deintyddol yn y gweithle gan ddefnyddio tystiolaeth glinigol gyfredol ar gyfer gofal ataliol.

"Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd pob deintydd yn mynd i hyfforddi 3 neu 4 nyrs ddeintyddol, sy'n golygu sgîl-effaith bosibl y model hwn o hyfforddiant yn enfawr.”

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai cymaint â 73% o'r triniaethau mewn practisau deintyddol cyffredinol gael eu cynnal gan GGDau – nyrsys deintyddol, hylenwyr, therapyddion a thechnegwyr. Bydd hyfforddi nyrsys deintyddol i ddarparu cyfarwyddiadau hunanofal effeithiol i gleifion ac i gymhwyso farnais fflworid yn rhoi mwy o amser i ddeintyddion ddarparu gofal uwch i gleifion ag anghenion mwy cymhleth.

 

Dywedodd Dr Jeremy Williams, deintydd ym Mhractis Deintyddol Rosehill yng Nghonwy: "Mae'r cwrs MPWiP wedi bod yn ffordd berffaith o ddarparu hyfforddiant i'n nyrsys deintyddol i gynyddu eu sgiliau a'u gwybodaeth.

"Mae hyfforddiant mewnol yn golygu ei bod yn llawer haws adeiladu amser ar gyfer cyflwyno'r cwrs a goruchwylio'r cyngor atal a'r ceisiadau am fflworid i bractis GIG prysur.”

Ychwanegodd Valerija Owens, nyrs ddeintyddol yn yr un practis: "Fe welais i'r cwrs hwn fel cyfle gwych i ehangu cwmpas yr hyn rwy'n ei wneud o ddydd i ddydd.

"Roedd fy mhrofiad dysgu yn gadarnhaol ac roedd yn rhoi cyfle i mi ennill sgiliau newydd a thyfu'n broffesiynol. Ers cwblhau'r cwrs, rwyf wedi mwynhau gweld cleifion yn annibynnol a rhoi cyngor ataliol iddynt ar iechyd y geg.”

Ychwanegodd Kirstie Moons: "Mae'r adborth gan bob plaid hyd yma wedi bod yn gadarnhaol dros ben ac rwy'n falch iawn bod AaGIC yn gallu cynnig yr arloesedd hwn i dimau a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru er mwyn gwella'r ddarpariaeth gofal iechyd y geg i gleifion.”

 

Cynhelir y cwrs nesaf, Gwneud Gwaith Atal yn Ymarferol i ddeintyddion ar 19 Medi 2019 (Abertawe) a 22 Hydref 2019 (y Rhyl). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i MaxCourse.

 

DIWEDD

 

Nodiadau i'r Golygydd:

  • Rhoddir trwydded i ddeintyddion sy'n cwblhau'r cwrs hyfforddi yn llwyddiannus i hyfforddi nyrsys deintyddol am gyfnod o flwyddyn.
     
  • Mae'r fenter Gwneud Gwaith Atal yn Ymarferol (MPWiP) yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn Gofal Iechyd Darbodus a Chymru Iachach i ddarparu gofal iechyd effeithiol sy'n canolbwyntio ar gleifion drwy fuddsoddi yn a manteisio i'r eithaf ar sgiliau'r holl weithlu deintyddol.
     
  • Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS); a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE).

    Ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llunio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio'r gweithlu yn strategol, deallusrwydd y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/