Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023

Eleni, y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6 — 12 Chwefror 2023) yw 'Sgiliau am Oes'.

Gall prentisiaethau o fewn y GIG helpu unigolion i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil tra hefyd yn datblygu gweithlu talentog sydd â sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Os ydych am ennill cyflog, dysgu a gwneud gwahaniaeth, gallai prentisiaeth o fewn GIG Cymru fod y cam nesaf i chi.

Dyma ddetholiad o adnoddau, gweithgareddau a digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws GIG Cymru yr wythnos hon i helpu i annog unigolion i ystyried gwneud cais am brentisiaeth.

  • Yn AaGIC, dymunwyd llongyfarchiadau enfawr i'n Prentis Cyfieithydd yr Iaith Gymraeg, Cedron Sion am ennill Prentis Cyfieithydd Iaith Gymraeg y Flwyddyn a Phrentis Iaith Gymraeg y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Coleg Gŵyr, a gynhaliwyd ddydd Llun 6 Chwefror. Gallwch ddarllen mwy am brofiad Cedron fel prentis yma.
  • Rhannodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro straeon ysbrydoledig am brentisiaid presennol sy'n gweithio ar draws amrywiaeth o adrannau drwy Raglen Brentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Gallwch ddarllen y rhain yma.
  • Amlygodd cydweithwyr ar draws GIG Cymru Tregyrfa fel adnodd digidol gwych i unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am brentisiaeth o fewn GIG Cymru. Wedi'i ddatblygu gan ein tîm yn AaGIC, mae ein pentref gyrfa rhithwir ar gyfer GIG Cymru yn cynnwys adeilad Llyfrgell Sgiliau, sy'n cynnig adnoddau defnyddiol i unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y GIG. Mae hyn yn cynnwys cymorth ac arweiniad ar gyfer cyfweliadau a gwneud cais, blogiau prentisiaeth a mwy: https://careersville.heiw.wales/cy/.
  • Mae Academi Prentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi rhannu cyngor a phrofiadau prentisiaeth gan aelodau newydd a phresennol o staff sydd wedi cwblhau prentisiaethau i uwchsgilio, cyflawni cymwysterau datblygu a symud ymlaen yn eu rolau. Chwiliwch @BIPCTMCymraeg ar Twitter i ddarllen ystod o astudiaethau achos.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd wedi bod yn tynnu sylw at y gwahanol lwybrau at brentisiaethau yn GIG Cymru drwy rannu teithiau prentisiaethau a phrofiadau bywyd go iawn o'r tu mewn i'w bwrdd iechyd. Chwiliwch @BIHywelDda ar Twitter i ddarganfod mwy.