Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu gwaith ein hyfforddeion fferyllol

Mae hyfforddeion fferyllol cyn-gofrestru Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cynnal archwiliad bob blwyddyn fel rhan o'u rhaglen hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Fel arfer, caiff hyn ei ddathlu gyda diwrnod posteri blynyddol lle byddant yn rhannu eu gwaith gyda gweddill eu cydweithwyr a phanel o feirniaid. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau ar gasglu mewn grwpiau, nid oedd y digwyddiad yn bosibl. Fe benderfynon ni gynnal ' Noson Archwilio Rithwir ' yn lle hynny, fel ffordd o ddathlu eu gwaith. Cynhaliwyd cystadleuaeth hefyd i ddewis enillydd cyffredinol o'r cyflwyniadau drwy weminar.

Roedd y cyflwyniadau gan yr hyfforddeion am eu gwaith yn ysbrydoledig. Cawsom ddetholiad o amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:

  • Adolygu diogelwch ac effeithiolrwydd y ‘Novel Oral Anticoagulants’ newydd a ragnodwyd mewn lleoliad gofal sylfaenol i gleifion dros 75 gan Andrew Seabury
  • Archwiliad i asesu safonau ysgrifennu presgripsiynau ar siartiau pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan Catrin Evans
  • Gwerthuso ymlyniad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rhagnodi canllawiau ar gyfer gentamicin yn Ysbyty Athrofaol Llandochau gan Ella Jenkins
  • Archwiliad i asesu priodoldeb rhagnodi gwrthfiotigau ar gyfer Acne Vulgaris mewn gofal sylfaenol gan Michelle ee
  • Gwerthusiad o bolisi Galluogi a Newid Therapiwtig Fferyllol Cymru gyfan gan fferyllwyr o fewn Ysbyty Athrofaol Cymru gan Eleanor Rees.

Cyflwynodd Eleanor archwiliad ardderchog ac fe'i dewiswyd fel yr enillydd cyffredinol.

Anogir yr holl hyfforddeion i rannu eu gwaith o fewn eu gweithleoedd a dosbarthu eu canfyddiadau.

Gwnaethom fwynhau gynnal y digwyddiad ar-lein yn fawr iawn. Llwyddwyd i greu amgylchedd hamddenol i hyfforddeion deimlo'n gyfforddus wrth rannu eu gwaith ac ateb cwestiynau gan ein dau feirniad, Lloyd Hambridge (Cymrawd clinigol) ac Elen Jones (Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru). Byddwn yn sicr yn ystyried defnyddio'r dechnoleg hon ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, gan ei bod yn galluogi tiwtoriaid cyn cofrestru i fynychu hefyd, a oedd mewn blynyddoedd blaenorol yn methu â gwneud hynny drwy ymrwymiadau gwaith a theithio.