Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad wedi'i ddiweddaru ar sylwadau'r Gymraeg

"Rydym yn cymryd y sylwadau a wnaed am y Gymraeg o ddifrif. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau ein bod yn cefnogi ac yn tyfu'r Gymraeg yn ein gweithlu GIG ac yn mynd ati i'w hymgorffori yn y ffordd rydym yn gweithio fel sefydliad. Rydym yn deall pa mor bwysig yw hyn i'n staff, ein dysgwyr a'n cleifion. Nid ydym yn cefnogi nac yn esgusodi'r sylwadau a wnaed gan yr unigolyn dan sylw. Yr ydym yn cymryd materion o'r fath o ddifrif.

"Roedd James Moore yn gweithio yn AaGIC ar gontract secondiad, ac ar ôl i'n trafodaethau mewnol ddod i ben, mae ei secondiad wedi'i derfynu ac mae wedi dychwelyd i'w gyflogaeth sylweddol gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).  Gan nad AaGIC yw'r cyflogwr, terfynu'r cytundeb secondio oedd y camau mwyaf a oedd ar gael i ni."