[Yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC, yn llofnodi Cytundeb Hyfforddwr Meddygol Cymru Gyfan]
Mae Cytundeb Hyfforddwr Meddygol Cymru Gyfan (Gofal Eilaidd ac Addysg Israddedig), a ddatblygwyd ar y cyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, yn cydnabod cyfrifoldebau proffesiynol meddygon yn goruchwylio myfyrwyr israddedig a hyfforddeion ôl-raddedig ynghyd â'u gwaith meddygol beunyddiol.
Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC: "Llynedd, ynghyd â'n partneriaid, roeddem yn falch iawn mai ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno Cytundeb Hyfforddwr Meddygol yn cwmpasu hyfforddiant gofal eilaidd israddedig ac ôlradd. Flwyddyn ymlaen, mae'n wych gweld cymaint o hyfforddwyr wedi ymrwymo i'r cytundeb.
"Datgelodd Arolwg Hyfforddwyr Cenedlaethol 2019 y GMC fod 90% o hyfforddwyr yng Nghymru yn mwynhau eu rolau, sy'n amlygu eu hymroddiad a'u brwdfrydedd dros ddarparu hyfforddiant meddygol o ansawdd uchel, a phwysigrwydd cydnabod y rôl hollbwysig y mae hyfforddwyr yn ei chwarae yn addysg ein gweithlu meddygol."
Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2018, mae 1,978 o hyfforddwyr wedi ymuno â'r cytundeb drwy system ar-lein; Porth Cytundeb yr Hyfforddwr (TAG).
Dywedodd yr Athro Aidan Byrne, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "Mae'r cytundeb wedi pwysleisio bod addysg feddygol yn allu proffesiynol na ellir tybio ei fod yn rhan o weithio arferol.”
"Mae cael fframwaith mor glir yn ein galluogi i gefnogi a datblygu'r hyfforddwyr sydd eu hangen arnom i sicrhau addysg feddygol o safon uchel."
Mae'r cytundeb yn caniatau i hyfforddwyr symud yn ddi-dor rhwng y pedwar rôl hyfforddwr sydd angen cydnabyddiaeth gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ac mae'n cael ei gefnogi gan lu o gyfleoedd cefnogi a datblygu ar gyfer hyfforddwyr.
Mae hefyd wedi cryfhau'r cydweithio rhwng unigolion a sefydliadau sy'n cyflwyno addysg feddygol yng Nghymru, gan ganiatáu mwy o gysondeb a thryloywder mewn addysg a hyfforddiant meddygol.
Dywedodd yr Athro Phil Newton, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe: "Mae'r cytundeb yn hyrwyddo'r rôl hanfodol sydd gan glinigwyr o ran datblygu gweithlu'r dyfodol.
"Mae Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn falch o fod wedi cyfrannu i wneud y cytundeb hwn yn realiti ac i gefnogi addysgwyr yn frwd drwy ein MSc ar-lein mewn Addysg Feddygol a gweithgareddau datblygu cyfadrannau eraill.”
Gan edrych ymlaen, bydd y tri sefydliad addysgol yn parhau i broffesiynoli a hyrwyddo rolau'r hyfforddwr, gan weithio i gyflawni'r ymrwymiadau a amlinellir yn y cytundeb i gefnogi'r ddarpariaeth o hyfforddiant meddygol o ansawdd uchel ac felly gofal cleifion .
Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd: "Mae Cymru'n arwain y ffordd wrth ddod ag addysg israddedig ac ôl-raddedig at ei gilydd dan nawdd AaGIC.
"Dylai'r ymgysylltiad gan glinigwyr yng Nghymru â'r cytundeb hwn barhau i wella'r ddarpariaeth o addysg feddygol glinigol ragorol o fewn y GIG.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
Y pedwar rôl hyfforddwyr gofal eilaidd ac israddedig sy'n destun cydnabyddiaeth gan y GMC yw:
Ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol o ran addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys: Addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.
Ceir rhagor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/