Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau ar-lein newydd Gwydnwch a Lles MedTRiM ar gael i holl staff y GIG yn ystod pandemig COVID-19

Mae cyrsiau cyfunol newydd ar-lein ar gael i gefnogi gwydnwch a lles seicolegol parhaus staff y GIG yng Nghymru yn ystod yr ymateb COVID.

Mae'r cyrsiau'n caniatáu i aelodau o staff y GIG adolygu eu hyfforddiant blaenorol mewn rheoli cydnerthedd meddygol ym maes trawma (MedTRiM), tra bod cyfyngiadau ar arferion gweithio arferol.  Ar gael drwy danysgrifiad llawn ychwanegol yn unig, bydd cwrs ymarferwr MedTrim ar gael o fis Gorffennaf eleni ymlaen. Mae pob cwrs yn cyflwyno cyfleoedd ar gyfer astudio a rhyngweithio hunangyfeiriedig gyda hwyluswyr arbenigol MedTRiM.

Datblygwyd MedTRiM sawl blwyddyn yn ôl gan Dr Mark Stacey, Anesthetydd Ymgynghorol a Deon Cysylltiol (Mentrau Newydd yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru) mewn cydweithrediad â'r Athro Andy McCann a Steve Eaton MBE o DNA Definitive. Mae'r cyrsiau wedi denu diddordeb rhyngwladol gydag ymhell dros 1,200 o glinigwyr yn mynychu'r cyrsiau hyfforddi o bob cwr o'r Deyrnas Unedig.

Mae deunydd y cwrs yn darparu strategaeth ar gyfer ymdrin â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a allai fod yn niweidiol ac amrywiaeth o sgiliau i wella eich lles eich hun.

Yn ogystal â dysgu sut i weithredu Dull Rheoli Sefydliad MedTRiM, mae'r cwrs yn pwysleisio'r angen am hunanofal, ac ystod o strategaethau lles wedi'u seilio ar dystiolaeth wedi'u datblygu ar gyfer y cyrsiau. O dan yr enw"Dwsin Lles y Pobydd", amlygir tair strategaeth ar ddeg drwy'r hyfforddiant. 

Mae mynychwyr cyrsiau blaenorol, F2's Charlie (BIPAB) a Hattie (BIPCaF) yn disgrifio eu profiad o gwrs gan fod "yr hyn a ddysgon ni mor ddefnyddiol, fe ddechreuon ni gynllunio diwrnod addysg o amgylch cynnwys y cwrs, i fynd yn ôl i'n myfyrwyr meddygol 5ed blwyddyn, yn ystod ein hawr ginio".

Mewn cydweithrediad â'r darparwr dysgu o'r radd flaenaf, MiMentor, mae'r cwrs dysgu cyfunol cyntaf ar-lein bellach ar gael, ac mae'r cwrs gloywi byr MedTRiM hwn wedi'i fwriadu ar gyfer unigolion sydd wedi mynychu cwrs MedTRiM yn flaenorol.

Am fwy o fanylion ewch i’n gwefan.