Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio Gweithlu Ymwelwyr Iechyd

Cynllunio Gweithlu Ymwelwyr Iechyd

Rebecca Boore, Arweinydd Prosiect Ymwelwyr Iechyd

 

Mae eleni wedi bod yn un cyffrous i'r ffrwd waith Ymwelwyr Iechyd, wrth i waith parhau i ddatblygu er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan bandemig Covid-19. Mae ymwelwyr iechyd o bob rhan o Gymru wedi parhau i gyfrannu at y prosiect hwn, tra'n gorfod addasu a newid eu ffyrdd o weithio gan sicrhau eu bod yn gallu ymateb i anghenion deinamig plant a theuluoedd yn ystod pandemig.

Mae'r grŵp ffrwd gwaith ymwelwyr iechyd yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth ledled Cymru. Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i greu dulliau, offer a thechnegau cadarn i bennu lefelau priodol o staff nyrsio mewn gwasanaethau ymwelwyr iechyd ledled Cymru i helpu i ddarparu Cymru Iachach.

Mae pwyslais ac angerdd i ddatblygu'r darn allweddol hwn o waith er budd plant, teuluoedd a staff. Un o'r agweddau gorau ar y prosiect hwn yw'r mwynhad rwy'n ei gael yn cwrdd ag ymwelwyr iechyd ar draws Cymru ac yn trafod eu rôl, gan gynnwys yr uchafbwyntiau ar isafbwyntiau. Mae'n broffesiwn gwerth chweil, ond fel gyda meysydd nyrsio eraill mae'n dod gyda'i heriau. Rhannu gwaith, arfer gorau, syniadau, ystyried dyfodol y proffesiwn a'r gweithlu, beth yw'r heriau presennol, ac atebion posibl yw'r hyn sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i mi. 

Egwyddorion arweiniol

Eleni mae'r grŵp ffrwd waith ymwelwyr iechyd wedi bod yn gweithio ar yr egwyddorion staff nyrsio dros dro ar gyfer ymwelwyr iechyd. Mae y rhain yn Egwyddorion y gweithlu sy’n;

  • darparu gwybodaeth werthfawr drwy sefydlu darlun sylfaenol manwl o'r gweithlu nyrsio presennol yn ein timau ymwelwyr iechyd
  • nodi'r bwlch adnoddau rhwng y sefyllfa bresennol a chydymffurfio'n llawn â'r egwyddorion hynny
  • a chau'r bwlch hwnnw dros amser drwy gynyddu cydymffurfiaeth yn raddol wrth baratoi ar gyfer unrhyw reoliadau yn y dyfodol i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

Mapio'r gweithlu ymwelwyr iechyd yng Nghymru

 Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r egwyddorion, mae'r grŵp wedi cwblhau ymarfer mapio'r gweithlu, gan nodi cyfansoddiad presennol y gweithlu ledled Cymru. Mae hwn wedi bod yn ymarfer defnyddiol sydd wedi agor trafodaethau pellach ynghylch cynnal y gweithlu wrth symud ymlaen, gan fabwysiadu dull 'tyfu eich hun' o ymdrin â'r proffesiwn ymwelwyr iechyd, timau sydd â chymysgedd sgiliau amrywiol, a rolau arbenigol ac ymgynghorol ar gyfer ymwelwyr iechyd. Bydd yr ymarfer hwn yn cael ei ailadrodd yn flynyddol i nodi unrhyw newidiadau yn y gweithlu a chefnogi cynllunio gweithlu tymor byr, canolig a hirdymor.

Offeryn ar gyfer barn broffesiynol 

Mae drafft cyntaf y canllaw Lefelau Gofal Cymru wedi'i ddatblygu a disgwylir iddo gael ei dreialu dros ystod gaeaf 2021 a dechrau 2022. Bydd y canllaw hwn yn cefnogi barn broffesiynol ymwelwyr iechyd wrth nodi’n gyson aciwtedd a dibyniaeth plant a theuluoedd ledled Cymru.

Mae llyfr gwaith barn proffesiynol wedi'i ddatblygu, gyda'r nod o hwyluso ymwelwyr iechyd i fynegi eu barn broffesiynol ar lefelau staffio a chymysgedd sgiliau. Mae'r grŵp hefyd wedi nodi dangosyddion ansawdd, y nifer sy'n cael eu brechu, Rhaglen Plant Iach Cymru, cyfraddau bwydo ar y fron a boddhad staff a chleientiaid.

Y dyfodol i wasanaethau ymwelwyr iechyd

Mae angen rhagor o waith i sicrhau bod gan wasanaethau ymwelwyr iechyd y seilwaith TG ar waith ar sail Cymru gyfan i'w cefnogi i gasglu a choladu data. Mae hyn yn cynnwys data ar lefelau staffio, lefelau Gofal Cymru, barn broffesiynol, a'r dangosyddion ansawdd. Mae angen casglu'r data ledled Cymru mewn fformat safonol fel y gallwn gyfrifo lefelau staff nyrsio a chaniatáu cyfleoedd i gymharu a meincnodi. 

Mae’r ymroddiad yr ymwelwyr iechyd ledled Cymru wedi caniatáu i lawer iawn o waith gael ei gwblhau, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd! Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymwelwyr iechyd wrth i'r proffesiwn ymdrechu i gyfateb y gweithlu i anghenion poblogaeth Cymru. Rwy'n edrych i'r dyfodol gydag optimistiaeth a chyffro am yr hyn sydd o'n blaenau.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffrwd waith ymwelwyr iechyd ar gael ar wefan AaGIC.