Datblygwyd dau fframwaith prentisiaeth newydd diolch i gydweithio cyffrous rhwng cyrff iechyd ledled Cymru.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/ HEIW), Sgiliau Iechyd a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd i greu'r cynlluniau newydd sydd â'r nod o hyfforddi mwy o ymarferwyr cynorthwyol a fydd yn gweithio mewn rolau cymorth gofal iechyd, a gwyddor gofal iechyd a meysydd therapi.
Mae ymarferwyr cynorthwyol yn staff hanfodol a gwerthfawr sy'n cyflawni rolau sy'n cyd-fynd â phroffesiynau unigol neu ffiniau traws-broffesiynol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl o bob oed mewn cymunedau ledled Cymru.
Bydd y prentisiaethau, sy'n dechrau yn gynnar yn 2020, yn helpu dysgwyr i ennill y sgiliau newydd sydd eu hangen i gyflawni'r rolau hyn yn ogystal â'u paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol a datblygu gyrfa.
Bydd y rhaglenni'n cydweithio â darparwyr addysg bellach a hyfforddiant i ddarparu addysg i weithwyr cymorth o safon uchel. Bydd y brentisiaeth yn darparu llwybrau datblygu ac mae'n rhaglen seiliedig ar waith. Mae ymarferwyr cynorthwyol therapi yn rhan gynyddol o'r gweithlu gofal iechyd. Gallant ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau na chynorthwywyr gofal iechyd, o dan y ddirprwyaeth o gydweithwyr cofrestredig mewn ystod o wahanol leoliadau. Mae gweithwyr cymorth sy'n gweithio ar y cyd ag unigolyn neu mewn mwy nag un gwasanaeth therapi hefyd yn gymwys i gael y brentisiaeth.
Bydd hyfforddiant ar gael i staff yn y meysydd cymorth canlynol, deietegol, therapi galwedigaethol, orthotig, ffisiotherapi, podiatreg a gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith.
Ar gyfer ymarferwyr cynorthwyol sy'n gweithio ar hyn o bryd mewn gwyddorau bywyd, ffiseg, peirianneg fiofeddygol glinigol a'r gwasanaethau gwyddorau ffisiolegol, bydd hyfforddiant penodol yn cael ei ddarparu yn y meysydd hyn hefyd.
Dywedodd Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio:
“Mae'r fframweithiau newydd hyn wedi'u datblygu i ddiwallu anghenion y gweithlu gwyddor gofal iechyd yng Nghymru ac maent yn cefnogi gweledigaeth eang y sector i ddatblygu gweithlu sy'n gynyddol sgilgar, hyblyg ac effeithiol tra'n cynnal gofal diogel o ansawdd uchel ar gyfer cleifion. Rydym yn falch bod y gwaith hwn bellach wedi dwyn ffrwyth ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi staff GIG Cymru i gymryd rhan yn y brentisiaeth.”
Ychwanegodd Dawn Probert, Uwch Ymgynghorydd, Sgiliau Iechyd:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous sy'n dangos gwir weithio mewn partneriaeth rhwng GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Sgiliau Iechyd. Bydd y fframweithiau hyn yn rhan o gyfres o adnoddau sydd ar gael i reolwyr i'w cynorthwyo i ddatblygu eu staff. Byddant yn hwyluso gyrfaoedd gweithwyr cymorth ac yn adeiladu ar y gwasanaethau o ansawdd uchel a ddarperir eisoes i unigolion gan y gweithlu hwn, gyda dysgwyr yn ennill gwybodaeth a sgiliau achrededig, trosglwyddadwy.”
Diwedd.
Nodiadau i'r Golygydd:
• Mae fframwaith prentisiaethau Ymarferwyr Cynorthwyol yng Nghymru, yn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru a nodir yn Gofal Iechyd Darbodus a Cymru Iachach i ddarparu gofal iechyd effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf drwy fuddsoddi yn sgiliau'r holl weithlu fferylliaeth a manteisio i'r eithaf arnynt.
• Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC/HEIW) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS); a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE).
Ar y cyd â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl arweiniol o ran addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio'r gweithlu, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio strategol ar gyfer y gweithlu, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/