Cynhaliodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) eu Cynhadledd Tîm Deintyddol Cymru Gyfan y mis diwethaf, gan dynnu sylw at y berthynas holl-bwysig rhwng iechyd y geg a lles cyffredinol.
Roedd y ffocws ar bwysigrwydd nid yn unig atal clefyd ond sicrhau gwell iechyd y geg yn gyffredinol fel rhan o strategaeth ehangach i wella canlyniadau cleifion a gofal cynhwysfawr.
Dywedodd Lynne O'Sullivan, Addysgwr Deintyddol, datblygu'r gweithlu yn AaGIC, trefnydd y digwyddiad:
"Canolbwyntiodd y gynhadledd ar rai o'r materion mwyaf dybryd sy'n effeithio ar iechyd deintyddol a lles y cyhoedd yng Nghymru: gordewdra, y defnydd o siwgr, iechyd y geg, a rôl hanfodol y tîm deintyddol wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn.
Ail-daniwyd angerdd a brwdfrydedd o fewn ein timau yn sgil dod ar draws y syniadau newydd a'r straeon llwyddiant a glywsom am wella iechyd y geg. Bydd treulio amser gyda'n cyfoedion sy'n wynebu'r un heriau yn ein helpu i barhau i adeiladu atebion ar y cyd i gynnal a gwella'r ddarpariaeth o ofal i gleifion."
Cynullodd y gynhadledd 125 o weithwyr deintyddol proffesiynol, gan gynnwys nyrsys deintyddol, hylenwyr, therapyddion, deintyddion, ymgynghorwyr a chynrychiolwyr cyrff proffesiynol. Roedd yn llwyfan amhrisiadwy ar gyfer rhwydweithio, rhannu gwybodaeth, a datblygiad proffesiynol. Rhoddodd gyfle i'r rhai oedd yn bresennol i gamu'n ôl o arferion beunyddiol ac ymgysylltu â chyfoedion am heriau cyffredin.
Roedd y siaradwyr yn dod o ystod o broffesiynau gofal iechyd gan gynnig golwg dreiddgar gwerthfawr i ofal cleifion. Pwysleisiwyd pwysigrwydd iechyd y geg ynghyd â iechyd cyffredinol ac na ddylid trin y geg ar wahân i weddill y corff.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys:
Tynnodd y digwyddiad sylw at ddulliau arloesol o ymdrin ag iechyd y geg, gan ysbrydoli cyfranogwyr i fabwysiadu strategaethau sy'n cyfuno gofal deintyddol i olwg cynhwysol o iechyd cleifion. Diolchwyd yn arbennig i Jackie Glassar, Cydlynydd y Cwrs, a Kathryn Marshall, Pennaeth Datblygu'r Gweithlu yn AaGIC, am eu cyfraniadau i lwyddiant y gynhadledd.
Roedd cynhadledd eleni yn atgof pwerus o’r genhadaeth gyffredin ymhlith gweithwyr deintyddol proffesiynol: i wella iechyd y cyhoedd trwy bontio'r bwlch rhwng iechyd y geg a lles cyffredinol.