Neidio i'r prif gynnwy

Cymru'n arwain y ffordd i wella gwaith tîm mewn deintyddiaeth

[Tîm deintyddol AaGIC gyda'u poster buddugol yn y Gynhadledd Addysg Ddeintyddol. O'r chwith i'r dde: Sue Stokes, Addysgwr Gwella Ansawdd, Dr David Thomas, Deon Deintyddol Ôl-raddedig, Kirstie Moons, Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio a Datblygu Gweithlu'r Tîm Deintyddol, Kathryn Marshall, Addysgwr Gwella Ansawdd, a Kath Hayes, Addysgwr DCP.]

 

Mae offeryn hyfforddi arloesol a ddatblygwyd yng Nghymru ac a gynlluniwyd i helpu practisau deintyddol i wneud y gorau o waith tîm wedi ennill cydnabyddiaeth ledled y DU.

Cafodd yr Offeryn Hunanwerthuso Optimeiddio Sgiliau (SOSET), a gafodd ei dreialu yn 2018 gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) mewn cydweithrediad ag Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Gwerthuso mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE), wobr genedlaethol yn Addysg y GIG yng Nghynhadledd Addysg Ddeintyddol yr Alban.

Mae SOSET yn annog timau deintyddol, gan gynnwys deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol, i roi gwaith tîm ar flaen y gad yn eu dull o ddarparu gofal iechyd geneuol effeithiol.

Arbrofwyd yn wreiddiol mewn 11 practis deintyddol ledled De Cymru, ac mae llwyddiant yr offeryn wedi golygu ei fod bellach yn cael ei ddefnyddio mewn 28 practis ledled Cymru gyda'r ffigur hwn yn debygol o godi wrth i ymwybyddiaeth o'r offeryn gynyddu.

Dywedodd Kirstie Moons, Cyfarwyddwr Cyswllt Cynllunio a Datblygu Gweithlu'r Tîm Deintyddol yn AaGIC: “Rydw i wrth fy modd bod y gwaith a wnaed ar y prosiect hwn wedi arwain at gydnabyddiaeth yn y Gynhadledd Addysg Ddeintyddol yn yr Alban.

“Mae SOSET yn arloesol ac yn unigryw, gan atgyfnerthu'r defnydd hanfodol o'r tîm deintyddol cyfan i ddarparu gofal effeithiol i gleifion. Mae'n bwysig bod pob aelod o'r tîm yn cael ei ddefnyddio'n briodol a bod eu sgiliau yn cael eu defnyddio i'r eithaf.

“Mae'r offeryn yn sicrhau bod practisau deintyddol yn adlewyrchu ac yn cynllunio i gyflawni hyn mewn ffordd sy'n addas iddynt hwy a'u cleifion.”

Yn y gynhadledd, enillodd SOSET y categori 'Gyrfaoedd deintyddol - strwythur a chymorth’ yn dilyn cyflwyniad ar ei ddyfeisio, ei ddatblygiad a'i effaith hyd yma.

Dywedodd 93% o'r rhai a gymerodd ran yn y peilot, gan gynnwys deintyddion, nyrsys deintyddol, derbynyddion ac eraill, fod SOSET yn ddefnyddiol.

Derbynnir yn gyffredinol bod practisau deintyddol yn perfformio'n fwy effeithiol pan fydd pawb yn gweithio fel tîm ac yn teimlo eu bod yn gallu trafod materion yn adeiladol. Mae SOSET yn caniatáu i bawb yn y practis feddwl am eu rôl wrth ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf. 

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai DCPs - nyrsys, hylenyddion deintyddol, therapyddion a thechnegwyr - gyflawni cymaint â 73% o driniaethau deintyddol cyffredinol - gan ryddhau amser deintyddion i ddarparu gofal uwch i gleifion ag anghenion mwy cymhleth.  

 I ddarllen mwy am sut mae practisau deintyddol yn ymgysylltu â'r offeryn, clywch gan Dr Parul Sood sydd wedi gweld y gwahaniaeth mae SOSET wedi ei wneud i'w phractis deintyddol yn Aberdâr.

 

DIWEDDU 

 

Nodiadau i'r golygydd: 

  • Wedi cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol, mae gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol yn cynnwys: nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol clinigol, hylenyddion deintyddol, technegwyr deintyddol, therapyddion deintyddol a therapyddion orthodonteg.
  • I gael rhagor o wybodaeth neu i gael gafael ar y ffurflen gais Offeryn Hunanwerthuso Sgiliau (SOSET), ewch i: https://bit.ly/2AEItGV
  • Mae datblygu SOSET yn cefnogi amcanion Gofal Iechyd Darbodus Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal iechyd effeithiol sy'n canolbwyntio ar y claf, a diwygio system ddeintyddiaeth y GIG gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod timau'n cael eu defnyddio'n llawn.
  • Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd ynghyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru; a Chanolfan Cymru ar gyfer Addysg Broffesiynol Fferyllol (WCPPE). Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad a ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, cudd-wybodaeth y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://heiw.nhs.wales/