Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yn Ennill Cydnabyddiaeth Eang mewn Gwobrau Nyrsio Myfyrwyr

Mae enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan ar gyfer denu, cefnogi a datblygu'r doniau ifanc gorau yn y diwydiant nyrsio wedi cael hwb arall eto.

Mae'r rhestr fer ar gyfer Gwobrau mawreddog Student Nursing Times 2019 yn cynnwys dim llai nag 11 o nyrsys, mentoriaid, addysgwyr, prifysgolion a sefydliadau yng Nghymru ar draws ei 21 categori, yn fwy nag erioed o'r blaen.

Mae Gwobrau'r Student Nursing Times yn cael ei ystyried gan lawer fel ‘Oscars’ y gymuned nyrsio yn y DU, gyda digwyddiad eleni yn cael ei gynnal ddydd Gwener 26 Ebrill yng Ngwesty Grosvenor House yn Mayfair yn Llundain.

Ymhlith y rhai ar y rhestr fer mae Mitchell Richards o Brifysgol Abertawe yn y categori Nyrs Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn, ynghyd â Julie Roberts a Stephen Prydderch o Brifysgol Bangor sydd ill dau wedi'u rhestru yng nghategori Addysgwr y Flwyddyn.

Denodd y gwobrau eleni y nifer uchaf erioed o geisiadau o bob cwr o'r DU, rheswm arall pam y gall y rheini a fydd yn teithio i Lundain o Gymru deimlo'n arbennig o falch.“

Mae hwn yn foment sylweddol nid yn unig i'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ond hefyd i ofal iechyd yng Nghymru gyfan,” meddai Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sy'n chwarae rhan flaenllaw yn yr addysg, hyfforddi, datblygu a llunio gweithlu gofal iechyd Cymru.

“Ar hyn o bryd, mae llawer iawn o waith caled yn mynd i sicrhau bod myfyrwyr nyrsio yng Nghymru yn cael yr hyfforddiant gorau, y gefnogaeth orau, y cyfleoedd gyrfa gorau a'r cyfle gorau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos sut mae gweddill y DU yn dechrau eistedd i fyny a chymryd sylw o'r hyn yr ydym yn ei wneud.

“Hoffwn longyfarch pob un o'n henwebwyr ar y rhestr fer a dymuno pob lwc iddynt yn y seremoni wobrwyo.”

Hefyd ar y rhestr fer mae:

  • Gwobr Mary Seacole am Gyfraniad Rhagorol i Amrywiaeth a Chynhwysiant - Sefyll yn Erbyn Bwlio, Prifysgol Abertawe
  • Darparwr Addysg Nyrsio'r Flwyddyn (Ôl-gofrestru) - Tîm Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol, Prifysgol Caerdydd
  • Darparwr Addysg Nyrsio'r Flwyddyn (Cyn-gofrestru) - Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe
  • Cyfraniad Rhagorol i Faterion Myfyrwyr - Nicola Williams, Prifysgol Bangor
  • Partneriaeth y Flwyddyn - Datblygu Modiwl Academaidd Arbennig Ôl-gofrestru, Clinig Caswell (BIP ABM) a Phrifysgol Abertawe
  • Partneriaeth y Flwyddyn - Partneriaeth Golau Glas, Prifysgol De Cymru
  • Arloesi Myfyrwyr ar Waith - NHS Hydr8, Prifysgol De Cymru
  • Nyrs Myfyriwr y Flwyddyn: Anawsterau Dysgu - Kate Young, Prifysgol Bangor

Mae enw da cynyddol Cymru yn y diwydiant nyrsio i lawr i sawl rheswm allweddol. Maent yn cynnwys:

• Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol - a Chymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i addysgu ei holl nyrsys a bydwragedd i lefel graddedigion.

• Llywodraeth Cymru yn cynnal bwrsariaeth y GIG ar gyfer addysg nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, sydd ar gael i'r rhai sy'n barod i ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl iddynt gymhwyso.

• Mae gan Gymru nifer o sefydliadau addysg uwch sy'n darparu hyfforddiant cyn ac ar ôl cofrestru, sy'n golygu y gall nyrsys gael mynediad i bob maes nyrsio - neu hyfforddi i fod yn nyrs practis, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol - drwy ddewis hyfforddi yng Nghymru

• Mynediad at gyllid ar gyfer addysg ôl-gofrestru i ehangu cwmpas ymarfer neu gefnogi datblygiad gyrfa i uwch ymarferydd

• Mynediad at ystod eang o gyfleusterau cynadledda a llyfrgell ardderchog, a reolir gan dîm ymroddedig o staff profiadol

• Amrywiaeth o lwybrau i nyrsio sy'n cynnwys opsiynau dysgu israddedig, ôl-raddedig a rhan-amser / hyblyg

“Mae bod yn fyfyriwr nyrsio yng Nghymru yn 2019 yn golygi bod yn rhan o system arloesol sy'n gwerthfawrogi barn broffesiynol nyrsys ac yn eu grymuso i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel,” meddai Stephen Griffiths. “Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fel gwlad fod yn hynod falch ohono.”

DIWEDD

Mwy o wybodaeth: 

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC / HEIW) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd trwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu'r Gweithlu GIG Cymru (WEDS); a Chanolfan Addysg Broffesiynol Fferyllol Cymru (WCPPE).

Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, deallgarwch y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.

 

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn https://heiw.nhs.wales/