Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yn ennill 'coron driphlyg' yng Ngwobrau Student Nursing Times

Roedd newyddion da i Gymru yng Ngwobrau'r Nursing Times 2019, a gynhaliwyd yn Llundain nos Wener (26 Ebrill) yng Ngwesty moethus Grosvenor House yn Mayfair.

Enillwyd categori Darparwr Addysg Nyrsio'r Flwyddyn (Ôl-gofrestru) gan y Tîm Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Enillodd Kate Young o Brifysgol Bangor wobr Nyrs Myfyriwr y Flwyddyn: Anawsterau Dysgu, tra bod gwobr Darparwr Addysg y Flwyddyn (Cyn-gofrestru) wedi mynd i'r tîm Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Gwobrau Student Nursing Times yn cael ei ystyried gan lawer fel prif wobrwyon y gymuned nyrsio newydd yn y DU. Eleni roedd y rhestr fer yn cynnwys dim llai nag 11 o nyrsys, mentoriaid, addysgwyr, prifysgolion a sefydliadau yng Nghymru ar draws ei 21 categori, mwy nag erioed o'r blaen.

Gwelwyd y nifer uchaf erioed o geisiadau o bob cwr o'r DU eleni, rheswm arall pam y gall y rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer o Gymru deimlo'n falch iawn.

“Hoffwn longyfarch pob un o'n tri enillydd, ac yn wir pob un o Gymru a oedd ar y rhestr fer,” meddai Stephen Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

“Mae llawer o waith caled yn mynd rhagddo i sicrhau bod ein myfyrwyr nyrsio yn cael yr hyfforddiant gorau, y cymorth gorau, y cyfleoedd gyrfa gorau a'r cyfle gorau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dangos sut mae gweddill y DU yn dechrau cymryd sylw o'r hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru. ”

Hefyd ar y rhestr fer o Gymru oedd:
•    Gwobr Mary Seacole am Gyfraniad Rhagorol i Amrywiaeth a Chynhwysiant - Sefyll yn erbyn Bwlio, Prifysgol Abertawe
•    Nyrs Myfyrwyr y Flwyddyn Mwyaf Ysbrydoledig - Mitchell Richards, Prifysgol Abertawe
•    Addysgwr y Flwyddyn - Julie Roberts, Prifysgol Bangor
•    Addysgwr y Flwyddyn - Stephen Prydderch, Prifysgol Bangor
•    Cyfraniad Rhagorol i Faterion Myfyrwyr - Nicola Williams, Prifysgol Bangor
•    Partneriaeth y Flwyddyn - Datblygu Modiwl Academaidd Ôl-gofrestru wedi'i Foduro, Clinig Caswell (Bwrdd Iechyd PABM) a Phrifysgol Abertawe
•    Digwyddiad Partneriaeth y Flwyddyn - Partneriaeth Golau Glas, Prifysgol De Cymru
•    Arloesi Myfyrwyr ar Waith - GIG Hydr8, Prifysgol De Cymru 

“Mae bod yn fyfyriwr nyrsio yng Nghymru yn 2019 yn mynd i fod yn rhan o system arloesol sy'n gwerthfawrogi barn broffesiynol nyrsys ac yn eu grymuso i wneud y penderfyniadau sydd eu hangen i ddarparu gofal o ansawdd uchel,” meddai Stephen Griffiths. “Mae hynny'n rhywbeth y dylem ni fel gwlad fod yn hynod falch ohono.”