Neidio i'r prif gynnwy

Cymru Iachach – Flwyddyn ymlaen

Mae'r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Cymru Iachach ’.

Ers hynny mae AaGIC wedi dechrau gweithio tuag at gyflawni rhai o'r camau a fydd yn trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Dywedodd Helen Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arweinyddiaeth ac Olyniaeth wrthym am rywfaint o'r gwaith sydd ar y gweill i lywio'r strategaeth arweinyddiaeth.

“Rydym wedi ymgysylltu â sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i archwilio'r cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a ddarperir ar hyn o bryd ar draws y sectorau. Mae hyn wedi dangos llawer o enghreifftiau o arfer gorau y gellir eu rhannu'n eang, tra'n darparu gwybodaeth allweddol i lywio datblygiad y strategaeth. ”

“Mae arfer da arall yn cynnwys Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, a sefydlwyd i ddatblygu gallu arweinyddiaeth ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Gwahoddwyd AaGIC, ynghyd â Llywodraeth Cymru i ymuno â'r grŵp llywio i sicrhau bod y cwricwlwm arweinyddiaeth israddedig yn cyd-fynd â'r strategaeth arweinyddiaeth iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â darparu hyfforddiant a mentora i fyfyrwyr academi..

“Dros fisoedd yr haf, bydd AaGIC mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Academi Wales yn cydweithio i ddatblygu strategaeth arweinyddiaeth iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.”

Mae Cymru Iachach yn cydnabod bod lles ac ymgysylltiad staff yn ffactor allweddol wrth ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel. Mae Claire Smith, Rheolwr Rhaglen y Gweithlu yn cydlynu ein rhwydwaith iechyd a lles ac mae hefyd yn Gadeirydd Rhwydwaith Iechyd a Lles GIG Cymru. Dywedodd wrthym beth mae AaGIC yn gweithio arno ar hyn o bryd.

“Rydym yn cynnal adolygiad o iechyd a lles y gweithlu, gan ddefnyddio canlyniadau asesiad anghenion iechyd a'n harolwg staff, i ddatblygu fframwaith iechyd a lles a chynllun gweithredu. Bydd hyn yn cyfrannu at greu amgylchedd gwaith sy'n arwain at iechyd a lles staff cadarnhaol.

“Rydym hefyd yn gweithio tuag at y Safon Iechyd Gorfforaethol, sef fframwaith cydnabyddedig Cymru Iach ar Waith sy'n hyrwyddo gwella iechyd a lles gweithwyr.”

Mae Rhwydwaith Iechyd a Lles GIG Cymru yn cynnal cynhadledd 'Mae Tosturiaeth yn Dechrau gyda Fi' sy'n agored i holl staff y GIG yn ddiweddarach eleni, manylion llawn yma neu edrychwch fwy am y gwaith y maent yn ei wneud yma.

Mae mentrau eraill y mae cydweithwyr yn eu cefnogi yn eu cynnwys:

  • Rydym wedi datblygu Canllaw Cryfder Meddwl sy'n rhoi awgrymiadau ar sut i reoli straen a chefnogi ein gilydd. 
  • Byddwn yn ymrwymo i addewid Amser i Newid i ddangos ein hymrwymiad i newid sut yr ydym i gyd yn meddwl ac yn gweithredu ynghylch iechyd meddwl yn y gweithle.
  • Byddwn yn gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer's Cymru i gefnogi datblygiad mwy o Gyfeillion Dementia yn y gweithle, gan gynnwys creu fferyllfeydd mwy hygyrch mewn partneriaeth â Phwyllgor Fferyllol Cymru.