Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd y cyllid uchaf erioed o £227m i ehangu gweithlu GIG Cymru

Heddiw mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething wedi cyhoeddi cyllid uwch nag erioed o dros £227m i ehangu lleoedd hyfforddi gweithlu gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, cynnydd o dros £16m ers y llynedd. 
 
Mae'r arian ychwanegol yn gyfystyr â chynnydd o 8.3%. Bydd yn gweld £9.124m yn fwy yn cael ei ddyrannu i helpu i ariannu hyfforddiant ar draws yr holl raglenni addysg a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Defnyddir £5.312m ychwanegol i gefnogi niferoedd hyfforddiant meddygon teulu a chynnydd o £0.762m ar gyfer y gyllideb hyfforddi fferylliaeth ledled Cymru.
 
Mae’r cyhoeddiad heddiw hefyd yn gweld £2.3m ychwanegol yn cael ei ddyrannu ar gyfer lleoedd hyfforddiant meddygol ac addysg ychwanegol. Bydd hyn yn cefnogi'r nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru.  Bydd y lleoedd hyfforddi ychwanegol yn cynyddu gallu'r gweithlu i helpu'r GIG i ymateb i'r heriau sy'n ei wynebu nawr ac yn y dyfodol.
 
Dyma'r seithfed flwyddyn yn olynol mae cyllid wedi cynyddu ac mae'n dod ar bwynt carreg filltir i'r GIG yng Nghymru sy'n parhau i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.

Addysg a Gwella Iechyd Cymru sy'n gyfrifol am addysg, hyfforddiant, datblygiad a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru,

Dywedodd Alex Howells, y Prif Weithredwr yn AaGIC “Bydd y buddsoddiad cynyddol hwn yn ein helpu i ddatblygu’r gweithlu hyblyg, cynaliadwy ac ymatebol sydd ei angen mewn tirwedd sy’n newid yn gyflym.  Rydym yn arwain wrth gofleidio a mabwysiadu dysgu cadarnhaol gan y COVID-19 ac annog y defnydd o ddulliau hyfforddi arloesol, gan gynnwys uwchsgilio staff mewn gofal critigol.

“Bydd AaGIC yn parhau i weithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd, Cyrff rheoleiddio a Phrifysgolion i ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu addysg ac asesu trwy ddysgu cyfunol gyda ffocws llawer mwy ar ddulliau digidol ac efelychu.  Ar draws hyfforddiant Meddygol Ôl-raddedig bydd 85 o swyddi ychwanegol yn cael eu creu, 46 ar y lefel graidd a 39 o fewn rhaglenni arbenigedd hyfforddiant uwch a fydd yn cychwyn ym mis Awst 2021. Bydd yr ehangu hwn mewn swyddi yn helpu Cymru i fynd i'r afael â'r heriau gweithlu allweddol a ragwelir dros y blynyddoedd i ddod ac yn cefnogi meysydd blaenoriaeth fel Meddygaeth Gofal Dwys a Meddygaeth Anadlol, arbenigeddau y mae COVID yn effeithio'n uniongyrchol arnynt, ynghyd â chefnogaeth ar gyfer Canser, Trawma Mawr a gofal meddygol acíwt.     

“Bydd cynnydd hefyd o dros 9% mewn nyrsio, bydwreigiaeth, proffesiynau iechyd perthynol a gwyddoniaeth gofal iechyd yn cynrychioli’r lefel uchaf erioed o gomisiynu gweithwyr iechyd proffesiynol y mae Cymru wedi’u gweld.  Yn ogystal, mae buddsoddiad pellach mewn cyllid Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a chyllid Ôl-gofrestru Proffesiynol Iechyd gyda phwyslais arbennig ar gefnogi staff sydd â hyder, sgiliau a gwybodaeth i gefnogi Cymru yn ystod y pandemig hwn. "
 
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething : “Eleni mae GIG Cymru wedi dangos cryfder a gwytnwch mawr, sydd ond yn bosibl oherwydd y gweithlu ymroddedig sydd o’i fewn, a diolch iddynt. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn parhau i fod ar y rheng flaen i ofalu amdanom i gyd, wrth inni barhau i fynd i'r afael â'r pandemig coronafeirws.. Fel cenedl mae ein diolch yn fawr i'n sector iechyd a gofal ac rwy'n falch o bopeth y maent wedi'i gyflawni yn y flwyddyn galed ac anodd hon.
 
“Mae eleni wedi dangos yn fwy nag erioed pa mor hanfodol yw buddsoddiad mewn hyfforddi a chynnal ein gweithlu iechyd ledled Cymru. Mae gan GIG Cymru fwy o bobl yn gweithio ynddo nawr, nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes, i ofalu am bob person, teulu a chymuned yng Nghymru. Bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau bod gweithlu’r GIG yn parhau i fod â’r sgiliau cywir i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru am nawr ac yn y dyfodol. ”