Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabyddir Hyfforddai Craidd Deintyddol AaGIC mewn digwyddiad anrhydeddus byd-eang

Dewiswyd Hyfforddai Craidd Deintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AAGIC), Hannah Barrow, fel un o'r e-bosteri gorau yng nghynhadledd y Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (ADEE) eleni.

Roedd poster Hannah, a elwir  "Beth mae 'proffesiynoldeb' yn ei olygu i weithwyr deintyddol proffesiynol, cleifion ac eraill" yn rhan o ymdrech tîm ochr yn ochr â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Athen yng Ngwlad Groeg a'r ADEE.

Er mwyn cefnogi Hannah, ariannodd AaGIC ei chofrestriad i fynychu'r digwyddiad blynyddol sy'n denu dros 300 o fynychwyr o 35 gwlad ledled y byd.

Ar ôl derbyn y newyddion, dywedodd Hannah “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael fy newis fel un o’r e-bosteri gorau. Roedd dros 70 o bosteri yn yr arddangosfa, pob un yn gyflwyniadau anhygoel.

"Edrychaf ymlaen yn awr at gyfrannu recordiad byr yn 'uchafbwyntiau ADEE 2021' ddiwedd mis Awst".

Gweithredodd Hannah hefyd fel hwylusydd yng  Ngrŵp Diddordeb Arbennig y gweithdy rhyngweithiol o'r enw 'Proffesiynoldeb - gadewch i ni fod yn bositif' ym mis Mehefin 2021, dim ond un o ddigwyddiadau cynhadledd ADEE.

Dywedodd Will McLaughlin, Deon Cyswllt craidd deintyddol a Hyfforddiant Arbenigol yn AaGIC "Mae AaGIC yn falch iawn o weld bod gwaith ymchwil Hannah, a gynhaliwyd yn ystod ei ail flwyddyn dan hyfforddiant craidd deintyddol, wedi cael ei gydnabod yn y digwyddiad addysg ddeintyddol fwyaf a mwyaf anrhydeddus yn Ewrop.

Da iawn iddi hi a'r tîm am y cyflawniad anhygoel hwn. "

Cydnabyddir cynhadledd ADEE yn fyd-eang fel un o'r prif fforymau deintyddol anrhydeddus, sy'n mynd i'r afael â materion addysg a hyfforddiant ar gyfer deintyddion a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol.