Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabyddiaeth i feddygon a deintyddion dan hyfforddiant sy'n trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru

Mae meddygon a deintyddion dan hyfforddiant o bob cwr o Gymru wedi cael eu cydnabod am eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad i drawsnewid gofal iechyd i bobl Cymru.

Mae'r Gwobrau Hyfforddi BEST, sydd bellach yn eu trydedd flwyddyn, yn fenter a drefnir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sy'n cydnabod rôl amhrisiadwy meddygon a deintyddion dan hyfforddiant o fewn gweithlu GIG Cymru.

Mae enillwyr gwobrau eleni wedi cael eu dewis am eu brwdfrydedd tuag at eu rhaglen hyfforddi yn ogystal â'u dyfeisgarwch wrth arwain prosiectau sydd wedi gwella gofal cleifion ledled Cymru.

Mae Dr Greg James, hyfforddai meddyg teulu, wedi cael ei enwi'n Hyfforddai Cyffredinol Gorau 2018 yng Nghymru yn ogystal ag ennill yn y categori Cyfraniad Eithriadol i Gymunedau Lleol / Cenedlaethol.

Sefydlodd Dr James glinig cam-drin steroidau bob pythefnos yn Ysbyty Brenhinol Gwent gyda chymorth nyrs arbenigol a gweithiwr cyfnewid nodwyddau. Ers i'r clinig agor, mae dros 100 o ddefnyddwyr steroid yn y gymuned wedi cael eu sgrinio, ac mae cysylltiadau gweithio agos wedi'u creu gydag adrannau gan gynnwys cardioleg, endocrinoleg, meddygaeth frys a chlinig camddefnyddio sylweddau.

Dywedodd Dr James: “Roeddwn i'n synnu fy mod wedi ennill gwobr Hyfforddai Gorau 2018, roedd yn annisgwyl iawn.

“Rwy'n falch iawn o'r gwaith rydym wedi'i gyflawni yn y clinig cyffuriau gwella delwedd a pherfformiad ac mae'n wych cael cydnabyddiaeth am y gwaith gwirfoddol parhaus y mae'r tîm a minnau yn ei wneud.

“Rwy'n falch o ddweud mai ni yw'r unig glinig a arweinir gan feddygon sy'n gwneud hyn yn y wlad ar hyn o bryd ac rydym wedi cael effaith mor gadarnhaol ar y garfan yma o gleifion sydd fel arfer yn osgoi chwilio am ofal iechyd."

Enillodd Dr Chris Brown y wobr Cyfraniad Rhagorol i Ymchwil am ei astudiaeth ddiweddar yn canolbwyntio ar ansawdd cwsg ac amddifadedd ymhlith meddygon dan hyfforddiant llawfeddygol. Dangosodd y gwaith, o'r enw ‘To Bed or Not to Bed’, effeithiau niweidiol sifftiau nos ac mae wedi arwain at newid dyluniad rota o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Aeth y wobr Hyfforddi Sylfaen Gorau i Dr Rebecca Yates, sydd wedi bod yn rhedeg y fenter mentora genedlaethol lwyddiannus - ‘Medic Mentor’ - am nifer o flynyddoedd yn ei hamser hamdden. Mae'r sefydliad wedi creu ‘cronfa amrywiaeth myfyrwyr’ i ddarparu cefnogaeth am ddim i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel.

Roedd enillwyr eraill, a gafodd eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo ar 7 Mawrth 2019, wedi datblygu prosiectau gan gynnwys; dylunio ap hunangymorth i gynorthwyo adferiad o iselder a gorbryder, sefydlu rhwydweithiau meddygon dan hyfforddiant, systemau cleifion electronig mwy effeithlon, datblygu ymyrraeth gynnar ar gyfer seicosis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a chyflwyno addysg feddyginiaeth ar gyfer peri-lawdriniaeth ar gyfer meddygon iau lefel sylfaen.

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr AaGIC: “Mae'r Gwobrau Hyfforddi BEST yn dathlu'r cyfraniad enfawr y mae meddygon a deintyddion yn ei wneud i ofal iechyd yng Nghymru. Roedd yn wych gweld cymaint o hyfforddeion o bob math o raglenni hyfforddi yn cael eu cydnabod am eu hymroddiad a'u gwaith caled. ”

Enillwyr Gwobrau Hyfforddai BEST 2018 yn yr wyth categori canlynol yw:

 

  • Cyfraniad Rhagorol i'r Rhaglen Hyfforddi - Dr Madhu Kannan (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf)
  • Cyfraniad Rhagorol i Gymunedau Lleol / Cenedlaethol a Hyfforddai Cyffredinol Gorau  2018 - Dr Greg James (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • Cyfraniad Rhagorol i Arloesi a Thechnoleg - Dr Lucy Bigham (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)
  • Cyfraniad Rhagorol i Arweinyddiaeth - Dr Bethany Ranjit (Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf)
  • Cyfraniad Rhagorol i Ymchwil - Dr Chris Brown (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • Addysg Feddygol / Ddeintyddol - Dr Isra Hassan (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)
  • Prosiect Gwella Ansawdd - Dr Hannah Skipp (Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Hyfforddai Sylfaen Gorau - Dr Rebecca Yates (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion:

Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018. Mae'n awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru a grëwyd drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd ynghyd: Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysg a Datblygu Gweithlu GIG Cymru; a Chanolfan Cymru ar gyfer Addysg Broffesiynol Fferyllol (WCPPE). 

Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, mae gan AGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygiad, a ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Mae ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a moderneiddio, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, cudd-wybodaeth y gweithlu, gyrfaoedd ac ehangu mynediad. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn  https://heiw.nhs.wales/