Neidio i'r prif gynnwy

Cwrdd â'r Hwyluswyr Addysg Cartrefi Gofal (CHEFs)

Beth yw Hwylusydd Addysg Cartref Gofal (CHEF)?


Rolau CHEF yw'r cyntaf yng Nghymru, a ddatblygwyd i annog mwy o fyfyrwyr gofal iechyd i ymgymryd â lleoliadau o fewn cartrefi gofal.
 

Cwrdd â'r Hwylusydd Addysg Cartref Gofal (CHEF) 

Mae pob Hwylusydd Addysg Cartrefi Gofal yn cwmpasu rhanbarth gwahanol yng Nghymru. Mae gan y tri phrofiad helaeth o fewn amgylcheddau gofal iechyd ac angerdd dros addysg o fewn y sector.
 

De-orllewin Cymru - Sarah Kingdom-Mills 

Mae gan Sarah Kingdom-Mills brofiad o weithio o fewn sawl ardal ar draws sawl rhanbarth yng Nghymru a De-orllewin Lloegr ac mae ganddi ddiddordeb mawr mewn anableddau dysgu. Wrth i'w gyrfa ddatblygu, datblygwyd diddordeb cynyddol mewn datblygu staff a gwasanaethau addysg, a ddaeth hyn yn ffocws iddi o fis Awst 2017 pan ddechreuodd yn ei swydd fel nyrs cyswllt addysg cyn cymryd rhan yn rôl beilot CHEF yn 2021.

"Rwy'n gweld ein rolau fel CHEF yn allweddol i godi ymwybyddiaeth ac ymarferoldeb o opsiynau gyrfa a llwybrau i fyfyrwyr gofal iechyd o fewn lleoliadau Gofal Cymdeithasol".

Yn ddiweddar, ysgrifennodd Sarah erthygl yn trafod manteision lleoliadau o fewn cartrefi gofal i'r Coleg Nyrsio Brenhinol.

 

Gogledd Cymru - Bernadette Evans 
Mae Bernadette Evans wedi gweithio ym maes meddygaeth acíwt, adsefydlu strôc a lleoliadau cymunedol; gyda gofal am yr oedolion hŷn yn ffurfio ffocws ei hastudiaethau ôl-raddedig. Gan weithredu ar yr angerdd i fod yn addysgwr nyrsio, dechreuodd weithio ym maes addysg uwch ers 2004, gan gefnogi amgylcheddau academaidd a chlinigol.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'm cydweithwyr fel rhan o'r tîm Hwyluswyr Addysg Cartrefi Gofal, yn ogystal â'n cydweithwyr yn y sector cartrefi gofal i ddatblygu amgylcheddau dysgu rhagorol o fewn cartrefi gofal i fyfyrwyr gofal iechyd yn ogystal â  hyrwyddo llwybrau gyrfa ar adeg cofrestru, tra'n cefnogi dysgu gydol oes ar gyfer holl staff cartrefi gofal." 
 

De-ddwyrain Cymru – Claire Hall 

Mae Claire Hall wedi gweithio ar draws meysydd amrywiol gan gynnwys orthopedeg, adfer ar ôl llawdriniaeth, ymweliadau iechyd ac addysg nyrsio. Yn sgil ei hangerdd dros ddysgu a datblygu eraill, mae wedi cwblhau MSc mewn Nyrsio Iechyd Cyhoeddus a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Gofal Iechyd yn ddiweddar. 

"Rwy'n gyffrous i fod yn rhan o'r tîm Hwyluswyr Addysg Cartrefi Gofal cyntaf yng Nghymru, lle rwy'n gobeithio gweithio'n agos gyda rheolwyr a staff cartrefi gofal i hwyluso a datblygu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr gofal iechyd, gan godi'r proffil i'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sector gofal cymdeithasol."

 

Camau nesaf

Mae gwaith cychwynnol y CHEF yn cynnwys cwmpasu'r darpariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd ledled Cymru gan ddefnyddio data a gasglwyd yn flaenorol pan fo hynny'n bosibl. Mae'r tîm hefyd wedi bod yn cysylltu ac yn datblygu perthynas â'r rhanddeiliaid perthnasol.

Dywedodd Simon Cassidy, Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau AaGIC, "Rydym yn gobeithio ehangu rolau Hwylusydd Addysg Cartrefi Gofal maes o law, ond rhan gyntaf yr hyn sy'n gynllun gwaith tair blynedd gychwynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru fydd cwmpasu'r potensial ar gyfer cynyddu mynediad myfyrwyr i'r sector cartrefi gofal.  Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu'r cysylltiadau cenedlaethol a lleol, llywodraethu trosfwaol, a'r grwpiau rhanddeiliaid sydd eu hangen i ddatblygu'r rhaglen waith hon."

Ar ôl sefydlu cysylltiadau, bydd y llwybr yn cael ei gosod er mwyn i’r rhaglen CHEF meithrin cyfnod newydd o gydweithio rhwng myfyrwyr gofal iechyd a chartrefi gofal yng Nghymru. 
"Mae’r cyflwyniad o Hwyluswyr Addysg Cartrefi Gofal Rhanbarthol yng Nghymru yn fenter newydd sylweddol a chyffrous. Edrychwn ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol gyda'r uchelgais i ddatblygu cyfleoedd dysgu pellach ar gyfer myfyrwyr nyrsio a gofal iechyd ehangach o fewn y sector cartrefi gofal."