Neidio i'r prif gynnwy

'Cwrdd â'r Cymrodyr': Cyflwyno Cymrodyr Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru 2020 – 2021

Yn ei wythfed flwyddyn, mae’r rhaglen Cymrodyr Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru (WCLTF) sy'n cael ei rhedeg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn cynnwys wyth cymrodyr newydd a fydd yn datblygu eu sgiliau arwain clinigol drwy ymgymryd â phrosiectau gofal iechyd arloesol.

 Mae'r gymrodoriaeth yn gyfle blwyddyn i feddygon, deintyddion, fferyllwyr ac, am y tro cyntaf yn y DU, eleni, optometryddion.

Mae'r cyfle unigryw hwn yn rhoi hyfforddiant a phrofiad ymarferol i gymrodyr mewn arweinyddiaeth a rheolaeth glinigol, gan roi graddedigion yn ddelfrydol i arwain gwelliannau yn y gwaith o ddarparu gofal iechyd yn y GIG modern yn y dyfodol.

Bydd y garfan eleni yn gweithio gydag uwch gydweithwyr mewn sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru gan gynnwys AaGIC, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd eu prosiectau'n canolbwyntio ar wella materion gofal iechyd pwysig gan gynnwys lles hyfforddeion, recriwtio a chadw staff, arloesi digidol, strategaethau gweithlu, gofal iechyd cynaliadwy a mwy.

I 'gwrdd' gyda phob un o'r cymrodyr, cadwch lygad allan ar y fewnrwyd, gwefan AaGIC a'r cyfryngau cymdeithasol, ble fydd bywgraffiadau yn cael eu postio bob wythnos. Gallwch hefyd ddilyn ein hymgyrch #MeettheFellows ar Twitter a  Facebook.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu â chyd-gymrawd, anfonwch e-bost at heiw@wales.nhs.uk neu dilynwch y cymrodyr ar Twitter @WelshFellows

Bydd ceisiadau ar gyfer Cymrodyr Hyfforddiant Arweinyddiaeth Glinigol Cymru  2020 – 2021 yn agor rhwng mis Hydref 2020 a mis Tachwedd 2020 a gellir eu cyflwyno drwy Oriel.