Neidio i'r prif gynnwy

CV wedi'i animeiddio yn arddangos gwyddor gofal iechyd fel gyrfa

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi rhyddhau CV newydd sbon i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael o fewn y gwyddorau gofal iechyd.

Mae'r animeiddiad yn egluro, mewn modd syml, ehangder y gwyddorau gofal iechyd ar draws GIG Cymru. Mae'n cwmpasu meysydd gan gynnwys llwybrau gyrfa i'r 50+ o ddisgyblaethau ac yn rhoi crynhoad o bob un o'r pum grŵp proffesiynol o fewn y maes.

Dywedodd Pennaeth Trawsnewid Gwyddor Gofal Iechyd AaGIC, Sarah Bant: Gydag effaith amlwg y proffesiwn yn ystod pandemig Covid-19 a datblygiadau gwyddonol a thechnolegol hynod gyflym mewn cymaint o ddisgyblaethau, mae gwyddor gofal iechyd nid yn unig yn rhan werthfawr o'r GIG, ond mae hi’n yrfa gyffrous, heriol sy’n rhoi gwir foddhad hefyd.

“Gyda'r CV wedi’i animeiddio hwn, a'r adnoddau eraill yn ein pecyn cymorth cyfathrebu Gwyddor Gofal Iechyd Cymru, ein nod yw ysbrydoli a denu cenhedlaeth newydd o wyddonwyr i GIG Cymru”.

Gan ddylanwadu ar tua 80% o benderfyniadau clinigol ar draws y GIG, mae'r proffesiwn gwyddor gofal iechyd yn gyfrannwr hanfodol o ran traddodi’r cynllun ‘Cymru Iachach’, sef cynllun hirdymor Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am yrfa mewn gwyddor gofal iechyd, ewch i wefan AaGIC, https://aagic.gig.cymru/ein-gwaith/gwyddor-gofal-iechyd-cymru/rhwydwaith-ac-adnoddau/.