Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i'n haelod bwrdd annibynnol mwyaf newydd

Hoffem groesawu John Gammon yn swyddogol fel aelod annibynnol diweddaraf bwrdd AaGIC.

Dywedodd ein Cadeirydd, Dr Chris Jones, "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yr Athro John Gammon yn ymuno â bwrdd AaGIC fel Aelod Annibynnol (AA) ym mis Awst 2022. Mae John yn AA profiadol â’r GIG ac mae ganddo gefndir yn y byd academaidd ac ym maes nyrsio. Bydd ei brofiad a’i frwdfrydedd dros ddatblygu pobl drwy addysg ac ymchwil yn gaffaeliad gwerthfawr i’n bwrdd."

Tan yn ddiweddar, roedd yr Athro Gammon yn Ddirprwy Bennaeth y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Yma, roedd yn gyfrifol am arwain datblygiad busnes y coleg yn y meysydd allweddol sef arloesi,ymgysylltu a datblygiad sefydliadol. Roedd ei rôl yn cynnwys prosiectau arloesi penodol, yn fewnol ac yn allanol, a gyfrannodd at gyflawni nodau strategol y brifysgol. Roedd ei rôl yn cynnwys cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â buddianwyr mewnol ac allanol, yn enwedig byrddau iechyd, cyrff cyhoeddus a gwasanaethau proffesiynol eraill. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Ymgysylltu, Partneriaeth ac Arloesi gyda'r Gyfadran Feddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, ym Mhrifysgol Abertawe

Mae gan yr Athro Gammon bron i un mlynedd ar bymtheg o brofiad o fewn y GIG ar ôl hyfforddi fel nyrs a gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol gydag Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin. Yn fwy diweddar bu’n Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Gwasanaethodd hefyd fel Aelod Bwrdd gyda Choleg Addysg Bellach Sir Benfro. Mae wedi cadeirio llawer o Bwyllgorau Bwrdd Iechyd a Phrifysgol gan gynnwys y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch, Pwyllgor Perfformiad a Chynllunio, Bwrdd Partneriaeth y Brifysgol,Pwyllgor Pwerau Rhyddhau Iechyd Meddwl a Phwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant,Datblygiad Sefydliadol a Phobl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, er bod ei dymor i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2022.

Mae gan yr Athro Gammon brofiad sylweddol mewn addysg uwch, gydag arbenigedd pwnc mewn atal a rheoli heintiau,ymchwil a rheoli gofal iechyd. Mae ei ddiddordebau yn cynnwys rheoli heintiau, strategaethau ynysu, a chydymffurfiaeth ymddygiadol o fewn cyd-destun clinigol. Mae gan yr Athro Gammon Ddoethuriaeth mewn Athroniaeth, mae ganddo gorff sylweddol o waith wedi ei gyhoeddi, ac mae'n arholwr allanol i Goleg y Brenin, Prifysgol Llundain. Mae hefyd yn siaradwr Cymraeg lefel 3